13 Mehefin 2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn dathlu buddugoliaeth ddwbl yng Ngwobrau Iechyd a Gofal Cenedlaethol BAME (BAMEHCA).
Derbyniodd Dr Akhtar Khan, Seiciatrydd Cyswllt Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, y wobr am Fenter Iechyd Meddwl, ac enillodd Tîm Allgymorth Datblygu Cymunedol y bwrdd iechyd wobr Menter Gymunedol y Flwyddyn.
Roedd staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig BIP Hywel Dda ar y rhestr fer mewn cyfanswm o naw categori.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Grŵp Cynghori BAME y bwrdd iechyd: “Llongyfarchiadau mawr i Dr Khan, ein Tîm Allgymorth Cymunedol, a’r holl enwebeion. Mae’r bwrdd iechyd yn hynod ddiolchgar am eu holl waith caled, ymroddiad ac arbenigedd. Maen nhw wedi ein gwneud ni’n falch iawn.”
Mae’r BAMEHCA yn ddigwyddiad blynyddol, a gynhelir gan DiversityQ, sy’n cydnabod gwaith caled a gwydnwch gweithwyr proffesiynol BAME yn sectorau iechyd a gofal y DU. Cynhaliwyd digwyddiad eleni yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon yn Llundain ddydd Iau 9 Mehefin.