12 Mai 2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn atgoffa pobl yn ystod wythnos Nyrsys Rhyngwladol bod ganddo lwybr amgen i yrfa nyrsio, i helpu i dyfu gweithlu GIG amrywiol a sefydlog, drwy ei Academi Prentisiaethau.
Mae’r cynllun, sy’n agored i geisiadau ar hyn o bryd tan ddydd Sul 5 Mehefin, yn helpu unigolion na fyddent efallai wedi dilyn llwybrau mwy traddodiadol, i ddilyn gyrfa fel nyrs gofrestredig. Mae’n rhoi cyfle iddynt ennill cyflog wrth ddysgu, yma yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae hyn o fudd sylweddol i’r gymuned leol, gan ei fod yn cefnogi darparu gofal tosturiol i bobl leol ar adeg pan fo heriau mawr wrth recriwtio i swyddi clinigol o fewn y GIG.
Esboniodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae ein rhaglen brentisiaeth hyd yn hyn wedi gweld ymgeiswyr o ystod amrywiol o oedrannau a meysydd ac rydym yn gobeithio gweld yr un peth yn y rownd nesaf o recriwtio. Mae mor bwysig ein bod yn harneisio’r sgiliau sy’n bodoli yn ein cymuned ac nad ydym yn dibynnu ar un piblinell ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol.
“Mae’r rhaglen strwythuredig yn helpu pobl i ennill y sgiliau a’r cymwysterau gofynnol yn y swydd ac mae’n cynnig amrywiaeth o brofiadau dysgu o ddydd i ddydd.
“Dyma un o’r camau allweddol yr ydym yn eu cymryd i dyfu a harneisio ein gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae’n adlewyrchu ein strategaeth a’n gweledigaeth i greu canolbarth a gorllewin Cymru iachach.”
Yn y rownd recriwtio hon, mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu lleoli hyd at 100 o brentisiaid gofal iechyd ar draws Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
Mae’r brentisiaeth hon ar gael i unrhyw un o 16 oed ac ymlaen i wneud cais, o’r tudalennau Gweithio i n(agor mewn dolen newydd) ar wefan Bwrdd lechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd).
Yn ystod y rhaglen, bydd prentisiaid yn dilyn hyfforddiant cymorth gofal iechyd clinigol, cyn symud ymlaen i brifysgol i gwblhau gradd nyrsio gofrestredig yn rhan-amser. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y cyfranogwyr yn nyrsys cymwys, heb orfod talu unrhyw ffi prifysgol. Disgwylir iddynt barhau mewn cyflogaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am o leiaf dwy flynedd ar ôl cymhwyso.
Dywedodd Adama Mboob, prentis wedi’i leoli yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd: “Roeddwn i’n meddwl bod y brentisiaeth gofal iechyd ar gyfer 16 oed i 21 oed yn unig. Doeddwn i ddim yn sylweddoli i ddechrau y gallwn ei wneud oherwydd gwnes i gais yn 31 oed, ond mae'r brentisiaeth ar gyfer pawb, waeth beth fo'u hoedran, rhyw neu hil.
“Byddwn yn annog yn gryf unrhyw un sy’n ystyried y brentisiaeth i wneud cais. Os ydych chi'n rhywun sy'n methu fforddio gradd prifysgol, neu os oes gennych chi deulu i ofalu amdano, y brentisiaeth yw'r opsiwn perffaith. Nid dim ond mewn ystafell ddosbarth rydych chi, rydych chi'n gweithio'n ymarferol gyda chleifion ac yn cael profiad gwerthfawr ochr yn ochr â phobl o gefndiroedd proffesiynol gwahanol. Rydych chi'n gweithio ac yn dysgu ar yr un pryd, felly os ydych chi'n ei ystyried, ewch amdani!"
Dywedodd Phoebe Jacob-Pritchard, prentis sy’n dod o Borth Tywyn ac sydd ar hyn o bryd wedi’i leoli yn y ganolfan frechu sy’n gysylltiedig ag Ysbyty’r Tywysog Philip (PPH), yn Llanelli: “Mae’n gyfle gwych, rydw i mor angerddol am ddod yn nyrs. Mae pob diwrnod yn wahanol ac rydych chi'n dysgu'n gyson. Mae’r rhaglen prentisiaeth gofal iechyd yn hwyl, yn heriol ac yn rhoi boddhad.”
Dywedodd Scott Holmes, prentis sydd wedi’i bostio ar hyn o bryd yn yr uned endosgopi, PPH: “Y pethau rwy’n eu mwynhau fwyaf am fy mhrentisiaeth yw’r ffaith nad ydych chi’n gwybod beth rydych chi’n mynd i gerdded i mewn iddo bob dydd, dim dau ddiwrnod byth. yr un peth pan fyddwch yn gweithio ar y ward a’r ffaith eich bod yn cael cymdeithasu â’ch cleifion yn ogystal â’ch cydweithwyr. Mae’r prentis gofal iechyd yn werth chweil, yn agoriad llygad ac yn ddifyr.”
Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn cynnal rhaglenni prentisiaeth eraill fel gwybodeg, llywodraethu, y gweithlu, profiad y claf a pheirianneg. Dilynwch SwyddiHywelDdaJobs ar Facebook neu Twitter am fwy o wybodaeth wrth i gynlluniau gael eu lansio.