Neidio i'r prif gynnwy

Lansio noddfa iechyd meddwl Twilight Sanctuary yn Llanelli

dwylo dyn

Cymorth pan fo’i angen arnoch - Mae gwasanaeth iechyd meddwl tu allan i oriau arloesol wedi lansio yn Llanelli.

Twilight Sanctuary yw’r noddfa cyntaf o’i math yng Nghymru ac ma ear agor o ddydd Iau i ddydd Sul o 6pm tan 2am, yn cynnig noddfa i oedolion sydd mewn perygl o ddirywiad iechyd meddwl pan mae gwasanaethau eraill ar gau.

Mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys a Cyngor Sir Gâr mae Bwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi comisiynu ac yn cyd-weithio â Mind a Hafal i redeg y gwasanaeth i ddarparu cymorth o ganolfan Mind yn Llanelli pan fo’i angen ar bobl.

Bydd Twilight Sanctuary yn cynnig noddfa a chymorth i bobl sydd mewn perygl o ddirywiad iechyd meddwl, mewn lledoliad amgen i gael help mynediad cynnar.

Meddai Amanda Davies, Uwch Nyrs Iechyd Meddwl Oedolion De Sir Gâr yn Hwyel Dda: “Mae’r bwrdd iechyd yn falch iawn o fod yn rhan o’r grŵp cydweithredol, sydd wedi galluogi lansiad llwyddiannus noddfa Twilight Sanctuary yn Llanelli.

“Mae Twilight Sanctuary yn gyfleuster mynediad cynnar yng nghanol Llanelli. Mae’n amgylchedd cynnes a gofalgar i unigolion a’u gofalwyr sydd angen cymorth gyda’u iechyd meddwl yn ystod y cyfnod tu allan i oriau.

Ychwanegodd Greg Thomas, Prif Swyddog Dros Dro Mind Llanelli: "Mae Mind Llanelli wrth ei fodd o fod yn rhan o’r prosiect newydd cyffrous hwn, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan gyd-weithio â’n partneriaid yn y bwrdd iechyd, awdurdod lleol, Hafal, Heddlu Dyfed Powys ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, i ddarparu gwasanaeth maw rei angen tu allan i oriau.

“Rydym yn croesawu’n fawr y cyfle i weithio gyda phobl a’u cefnogi i reoli a chynnal eu iechyd meddwl a’u llesiant, a hynny mewn amgylchedd cartrefol sy’n osgoi’r angen i bobl ddefnyddio gwasanaethau mwy acíwt, lle bo modd."

Dyma un o’r prosiectau cyntaf i’w lansio o’r rhaglen Trawsnewid Iechyd Meddwl. Yn 2017, ymgysylltodd dros mil o bobl mewn ymgynghoriad cyhoeddus wnaeth ofyn barn pobl ar gynigion i newid sut mae gofal a thriniaeth yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion iechyd meddwl y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Wedi cyd-weithio â defnyddwyr gwasanaeth, staff, partneriaid, yn cynnwys Gweithredu Dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru a’r Cyngor Iechyd Cymuned, cyd-ddyluniwyd model gofal newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, adeiladwyd ar yr hyn a ddysgwyd yn ystod ymgysylltu, cyd-ddylunio, cydweithredu rhyngwladol ac ymgynghori cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys:

• Gwasanaethau 24 awr – sicrhau bod unrhyw un sydd angen help yn medru mynd i ganolfan iechyd meddwl am gymorth unrhyw amser o’r dydd a’r nos.

• Dim rhestrau aros – fel bod pobl yn cael cyswllt cyntaf â gwasanaethau iechyd meddwl o fewn 24 awr, ac i’w gofal dilynol gael ei gynllunio mewn ffordd gyson a chefnogol.

• Ffocws cymunedol – i stopio derbyn pobl i ysbyty pan nad dyna’r opsiwn gorau a darparu cymorth yn y gymuned pan mae pobl angen amser oddi cartref, cymorth ychwanegol neu amddiffyniad ychwanegol.

• Adferiad a gwytnwch – gwasanaethau nad ydynt yn canolbwyntio’n llwyr ar drin neu reoli symptomau, ond yn hytrach yn helpu pobl i fyw bywydau annibynnol a chyflawn gyda’r help a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Gall unrhyw un sydd angen defnyddio’r gwasanaeth ffonio 01554 253193 neu alw mewn i Mind Llanelli ar Stryd Thomas.

Dyma fideo byr sy’n hyrwyddo’r gwasanaeth: https://youtu.be/85-nqGr1wEY