24 Awst 2022
Lansiwyd menter Blodau Haul er Llesiant Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) ar draws y bwrdd iechyd ym mis Mai, i gefnogi llesiant staff.
Mae'r cynllun yn rhan o'r fenter hyrwyddwyr llesiant a ariennir gan Elusennau'r GIG Gyda'i Gilydd. Y nod yw annog staff ar draws y bwrdd iechyd i dyfu blodau haul, i fanteisio ar fanteision bod yn yr awyr agored, i gymryd sylw a dysgu am natur, ac i greu rhai sgyrsiau cadarnhaol o fewn ac ar draws timau, sydd oll yn cyfrannu at ein pum ffordd at lesiant (agor yn dolen newydd).
Mae Pum Ffordd at Lesiant yn cynnwys cysylltu â phobl, bod yn egnïol, cymryd sylw o’r byd o’n cwmpas, dysgu parhaus a rhoi. Mae gweithwyr proffesiynol iechyd cyhoeddus yn argymell bod y Pum Ffordd at Lesiant yn cael eu hymgorffori yn ein bywyd bob dydd i wella llesiant.
Dywedodd Paul Harries, Arbenigwr Chwarae ar Ward Angharad, Ysbyty Bronglais: “Mae menter Blodau Haul er Llesiant wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith y tîm o staff ar Ward Angharad.
“Fel Hyrwyddwyr Llesiant y ward, penderfynodd fy nghydweithiwr Sian Davies a minnau ddarparu hadau i staff y ward yn ogystal â phecyn cyfan o eitemau – compost, pot, label a ffon i dyfu’r blodau haul i’w galluogi i blannu eu hadau gartref.
“Rydym i gyd wedi mwynhau tyfu’r blodau haul ac mae’r fenter wedi bod yn bwnc trafod cyson, yn y gwaith ac ar ein grŵp WhatsApp ar y ward! Rydyn ni hefyd wedi creu arddangosfa ar ward y plant gyda lluniau o flodau haul gwahanol aelodau o staff yn dangos sut maen nhw'n dod yn eu blaenau.
“Mae’r fenter wedi rhoi ffocws i staff mewn sgwrs nad yw’n gysylltiedig â gwaith, mae wedi caniatáu i ni rannu cynnydd ac awgrymiadau ar dyfu yn yr ystafell staff ac ar gyfryngau cymdeithasol, ac wedi ymgysylltu â staff na fyddent efallai fel arfer yn tyfu planhigion nac yn treulio llawer o amser yn yr ardd. Mae hyn i gyd yn bendant wedi helpu llesiant pawb dan sylw, fel unigolion ac fel tîm.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd BIP Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd bod ein hyrwyddwyr llesiant wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid i roi’r fenter hon ar waith a chyflawni eu nod. Mae’n wych gweld bod ein staff yn cysylltu â byd natur ac yn cefnogi eu llesiant.”