Neidio i'r prif gynnwy

Lansio ap COVID-19 y GIG yng Nghymru a Lloegr

Mae ap COVID-19 y GIG yn lansio 24 Medi ar draws Cymru a Lloegr a bydd yn hanfodol i helpu i ddiogelu Cymru.

Rydym yn annog pobl yng Nghymru i lawrlwytho a defnyddio'r ap. Y mwyaf o bobl sy'n lawrlwytho’r ap, y mwyaf y bydd yn helpu i leihau a rheoli lledaeniad COVID-19.

Nodweddion yr ap yw:

  • Olrhain - Cewch rybudd os ydych wedi bod wrth yml defnyddwyr eraill gafodd brawf coronafeirws positif
  • Rhybudd - Cewch wybod lefel y risg yn eich ardal cod post
  • Cofnodi i mewn - Cewch rybudd os ydych wedi bod i rywle lle'r oedd coronafeirws
  • Symptomau - Gwiriwch eich symptomau coronafeirws i weld a oes angen archebu prawf am ddim
  • Prawf- Help gyda bwcio prawf a chanlyniad cyflym
  • Ynysu - Cadw trac ar eich cyfnod hunanynysu a chyngor perthnasol

Mae'r ap yn cefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru a bydd yn gweithio ochr yn ochr â’r system olrhain cysylltiadau bresennol. 

Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau

Dydy’r ap ddim yn cymryd lle yr angen i fusnesau risg uchel ledled Cymru gofnodi manylion cwsmeriaid ac ymwelwyr â’u safleoedd.

Cofiwch, mae dal yn gyfraith yng Nghymru i fusnesau risg uchel gofnodi eu hymwelwyr a chadw’r manylion am 21 diwrnod.

Mae hyn yn cynnwys tafarndai, bwytai, gwasanaethau cyswllt agos fel salonau trin gwallt a siopau barbwr, canolfannau hamdden dan do a champfeydd, sinemâu, casinos a neuaddau bingo.

Am ragor o wybodaeth am yr ap ac i lawrlwytho'r cod QR unigryw ar gyfer eich busnes, ewch I https://llyw.cymru/ap-covid-19-y-gig-canllawiau-i-fusnesau-sefydliadau