04 Mawrth 2022
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Hywel Dda yn annog pobl y cysylltwyd â nhw fel rhan o'r achosion o dwbercwlosis (TB) yn Llwynhendy i fynd i'w hapwyntiadau sgrinio, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.
Mae dros 2600 o bobl wedi mynd i'r ymarfer sgrinio cymunedol parhaus a ddechreuodd ym mis Mehefin 2019.
Fodd bynnag, mae 485 o bobl sydd wedi'u nodi fel cysylltiadau a'u gwahodd i gael eu sgrinio nad ydynt wedi mynd i'w hapwyntiadau eto. Mae'r OCT yn awyddus i bwysleisio mor bwysig ydyw bod y rhai a wahoddir i gael eu sgrinio bellach yn dod i'w hapwyntiadau.
Meddai Dr Brendan Mason o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cadeirydd yr OCT: “Rydym yn ddiolchgar iawn i gymuned Llwynhendy am eu cymorth wrth ddod i gael eu sgrinio mewn niferoedd mor fawr. Mae wedi bod yn amhrisiadwy o ran helpu i reoli'r achosion.
“Rydym yn deall y gall pobl fod wedi bod yn amharod i fynd i ysbyty er mwyn cael eu sgrinio yn ystod pandemig y Coronafeirws, ond gallaf eu sicrhau bod mesurau diogelwch yn eu lle er mwyn atal lledaeniad COVID-19.
“Os oes rhywun wedi cysylltu â chi yn y gorffennol a gofyn i chi ddod i apwyntiad sgrinio, nawr yw'r amser i gael prawf. Mae'n bwysig iawn ein bod yn sgrinio'r holl gysylltiadau a nodwyd a sicrhau bod unrhyw un sy'n cael diagnosis o TB cudd neu weithredol yn cael y monitro neu'r driniaeth sydd eu hangen arnynt i atal unrhyw ledaeniad pellach.”
Mae 31 o achosion o TB gweithredol wedi'u nodi ers 2010 yn ystod yr achosion. Mae TB gweithredol yn glefyd heintus difrifol, ond gellir ei drin os caiff ei nodi'n gynnar.
Yn ogystal, ers 2010 yn yr achosion yn gyffredinol, mae 303 o bobl – neu fwy nag un o bob deg o'r rhai sydd wedi cael eu sgrinio - wedi cael diagnosis o TB cudd. Nid yw TB cudd yn heintus ac nid yw'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl, ond gall ddatblygu'n TB gweithredol yn ddiweddarach. O ganlyniad, mae'n bwysig bod pobl sydd â haint TB cudd yn cael eu nodi fel y gellir eu monitro a chael triniaeth briodol.
Os cysylltwyd â chi fel rhan o'r achosion o TB yn Llwynhendy a gofynnwyd i chi wneud apwyntiad ar gyfer sgrinio TB yn y gorffennol, ni waeth pa mor bell yn ôl, ffoniwch 0300 303 9642 i wneud apwyntiad.
Ni ddylai unigolion sydd â symptomau aros i gael eu sgrinio, ond dylent ofyn am gyngor clinigol gan eu meddyg teulu neu GIG 111 Cymru.
Mae symptomau clefyd TB fel a ganlyn:
• Peswch sy'n para am dair wythnos neu fwy, nad yw'n ymateb i feddyginiaeth arferol ac yn parhau i waethygu
• Twymyn (tymheredd uchel)
• Chwysu cymaint yn y nos fel bod angen newid y cynfasau gwely
• Colli pwysau am ddim rheswm
• Blinder (diffyg egni neu flinder eithafol)
• Colli archwaeth
• Peswch gwaed (mae hyn yn brin iawn ond bydd angen cyngor meddygol ar unwaith).
I gael rhagor o wybodaeth am TB, ewch i wefan GIG 111 Cymru yma.