Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda yn ennill yn Coleg Cymraeg Gwobrau Blynyddol

27 Mehefin 2024

Mae Cerys Brown, prentis gofal iechyd yn Ysbyty Glangwili wedi ennill Gwobr Talent Newydd yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg i gydnabod ei dawn eithriadol yn y gweithle.

Fe'i cynhaliwyd ddydd Iau 20 Mehefin yng Nghanolfan S4C yr Egin, ble cafodd myfyrwyr, prentisiaid a darlithwyr o'r sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Mae adborth gan staff a chleifion am berfformiad Cerys ar y wardiau yn ei disgrifio fel unigolyn dibynadwy a phroffesiynol sy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y Gymraeg wrth ymgysylltu â chleifion.

Wrth dderbyn y Wobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce, dywedodd Cerys: "Mae'n anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon. Rwyf wrth fy modd â'm swydd ac mae'r wobr yn cadarnhau fy mod yn rhoi fy ngorau yn academaidd ac yn y gweithle.

"Gall gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod yn heriol ar adegau, ond rwy'n mwynhau pob agwedd ar y gwaith ac mae helpu cleifion yn fy ngofal yn rhoi boddhad mawr."

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Rwy’n falch iawn o glywed am lwyddiant Cerys yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg. Hyfryd yw clywed am ei hymroddiad i’w chleifion a deall pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg, eu dewis iaith, wrth ymwneud â’i chleifion. Llongyfarchiadau Cerys.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i: Gwobrwyo myfyrwyr, prentisiaid a darlithwyr disglair yn noson wobrau’r Coleg Cymraeg | Coleg Cymraeg Cenedlaethol (agor mewn tab newydd)

DIWEDD