Neidio i'r prif gynnwy

Hywel Dda yn cynnal arholiad clinigol nodedig

01 Rhagfyr 2023

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o fod wedi cynnal arholiad clinigol Aelod nodedig y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (MRCPCH) yn llwyddiannus ar ran y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH).

Mae’r RCPCH yn gyfrifol am osod safonau hyfforddiant pediatrig yn y DU gan gynnwys cynhyrchu’r cwricwlwm pediatrig a’r llwybr asesu.

Croesawyd hyfforddeion pediatrig i Ysbyty Glangwili, yr unig ganolfan brawf yng Nghymru ar gyfer 2023, i gwblhau eu harholiad MRCPCH terfynol. Mae'r arholiad ymarferol hwn yn cynnwys cyfres o deg senario, rhai'n defnyddio cleifion go iawn, tra'n cael eu hasesu gan hyfforddwyr sydd â phrofiad helaeth o weithio ym maes pediatreg.

Dywedodd Dr Prem Kumar Pitchaikani, Pediatregydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol “Mae addysg a hyfforddiant gweithwyr meddygol proffesiynol yn broses barhaus ac mae o'r gwerth mwyaf, wrth ymdrin â phryderon, cyflyrau a heriau gwirioneddol yn y byd go iawn. Mae arholiad clinigol MRCPCH yn ymdrechu i wneud hyn.

“Mae’r broses hon yn dangos ymrwymiad ein bwrdd iechyd i addysg a hyfforddiant pediatregwyr y dyfodol, a hoffwn ddiolch i holl aelodau’r adran bediatrig a’r uwch reolwyr am gefnogi’r digwyddiad hwn.”

Ar ôl yr arholiad clinigol llwyddiannus, roedd yn anrhydedd i Dr Prem Kumar Pitchaikani gael ei ddewis gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant i'w cynrychioli yn India yn 2024 i asesu hyfforddeion pediatreg ac eraill yn ystod eu harchwiliad clinigol MRCPCH.

Fel arwydd o werthfawrogiad am gynnal yr arholiad, cyflwynodd y Coleg Brenhinol fonitor cyfrifiadur i’r tîm pediatrig i hwyluso addysg a hyfforddiant rhithwir.