8 Awst 2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi recriwtio 45 o nyrsys rhyngwladol ac mae’n bwriadu cynyddu’r nifer hwn yn sylweddol dros y misoedd nesaf.
Mae nyrsys rhyngwladol wedi bod yn rhan o'r GIG ers ei sefydlu ym 1948 ac maent yn parhau i chwarae rhan hanfodol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn anelu at recriwtio 100 o nyrsys rhyngwladol eleni drwy’r rhaglen a ddarperir yn ganolog gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, byrddau iechyd lleol a Llywodraeth Cymru.
Mae’r nyrsys sydd newydd eu recriwtio yn rhan o brosiect ehangach i wella ac ehangu gweithlu nyrsio’r bwrdd iechyd a fydd yn helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion.
Cyrhaeddodd y garfan gyntaf o 11 nyrs ym mis Mai. Mae'r nyrsys wedi sefyll eu harchwiliad clinigol gwrthrychol strwythuredig (OSCE) ac maent wedi'u lleoli yn ysbytai Glangwili a Thywysog Philip
Cyrhaeddodd yr ail garfan o nyrsys ym mis Mehefin. Mae’r grŵp o 19 o nyrsys hefyd wedi cymryd eu OSCE ac wedi’u lleoli ar draws ysbytai Glangwili, Tywysog Philip a Bronglais.
Cyrhaeddodd y drydedd garfan o nyrsys ym mis Gorffennaf ac ar hyn o bryd maent yn cael hyfforddiant OSCE i baratoi ar gyfer eu harchwiliad. Mae'r 15 nyrs wedi'u gwasgaru ar draws ysbytai Glangwili, Tywysog Philip, Llwynhelyg a Bronglais.
Dywedodd Judith Avan o Nigeria, sy’n gweithio yn Ysbyty Bronglais: “Mae byw yng Nghymru wedi bod yn hyfryd, mae pobl mor groesawgar, ac mae’r tywydd wedi bod mor hyfryd. Edrychaf ymlaen at ddatblygu yn fy ngyrfa ac arbenigo mewn therapi anadlol.”
Dywedodd Nabita Kabeer o India, sy’n gweithio yn Ysbyty Glangwili: “Rwy’n gyffrous am weithio gyda GIG Cymru. Edrychaf ymlaen at fwynhau harddwch Cymru a datblygu yn fy ngyrfa. Rwyf am arbenigo mewn rheoli heintiau neu nyrsio theatr llawdriniaethau neu nyrsio fforensig.”
Dywedodd Oyebola Opemipo Tikolo o Nigeria, sy’n gweithio yn Ysbyty Glangwili: “Mae wedi bod yn brofiad braf ar y ward ac oddi arni, mae’r bobl yn gyfeillgar ac yn barod i helpu. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu yn fy ngyrfa drwy gymryd mwy o gyrsiau, rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddod â fy nheulu draw ac ymgartrefu yma. Rwy’n bwriadu arbenigo mewn bydwreigiaeth gan fod gennyf brofiad mewn bydwreigiaeth.”
Dull gweithredu’r BIP o ddenu a chadw ei weithwyr yw bod yn sefydliad sy’n seiliedig ar werth.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Lisa Gostling: “Rydym yn gweithio gyda’n gilydd yn barhaus i fod y gorau y gallwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Rydym am ddenu gweithlu amrywiol ac rydym yn falch iawn o groesawu’r nyrsys sydd newydd eu recriwtio i deulu Hywel Dda.”
Os hoffech gael gwybod am swyddi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, dilynwch SwyddiHywelDdaJobs ar Facebook neu Twitter.