6 Ebrill 2022
Mae cleifion ar draws de-orllewin Cymru wedi cael hwb yn dilyn gosod sganiwr CT newydd sbon gwerth £2.2m yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Mae’r sganiwr, sydd wedi’i ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru, yn ymgorffori’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael a bydd yn gwella profiad y claf yn sylweddol gyda gwell datrysiad ac amseroedd sgan cyflymach.
Bellach gellir perfformio sganiau o’r garddwrn a phenelin gyda'r claf yn eistedd mewn cadair, a gellir perfformio'r ddelwedd mewn 4D. Gellir cael sganiau cardiaidd mewn un curiad calon a bydd yn galluogi i Ysbyty Glangwili i ddarparu gwasanaeth CT Cardiaidd i'n cleifion ac mae'r sganiwr newydd yn golygu y gellir gwneud sganiau ymennydd mewn un cylchdro (0.40 eiliad), a fydd o fudd i gleifion pediatrig. Mae gan y sganiwr hefyd hyd bwrdd estynedig sy'n golygu y gallwn sganio o'r pen i'r traed.
Dywedodd Sarah Procter, Radiograffydd Arolygol Arweiniol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili: “Rydym wrth ein bodd i gael y darn hwn o dechnoleg yn y bwrdd iechyd. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n cleifion - mae'n llawer mwy cyfeillgar i gleifion ac yn cynhyrchu ansawdd delwedd llawer uwch. Diolch i bawb a fu’n ymwneud â chaffael, adeiladu a gosod.”
Yn ychwanegol, mae Adran Radioleg yr ysbyty hefyd wedi’i hailgynllunio’n ofalus i wella profiad y claf, ac mae ganddi bellach ddwy ystafell aros ar wahân ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, toiledau cleifion, ystafell newid ac ardal caniwleiddio. Mae’r uned wedi’i haddurno â murluniau o dirweddau Sir Gaerfyrddin ac mae’n cynnwys goleuadau y gellir eu haddasu.
Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau: “Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o fudd mawr i’n cleifion. Bydd yn galluogi’r bwrdd iechyd i fynd i’r afael â’n hôl-groniad o Covid-19 drwy gynyddu ein capasiti a lleihau amseroedd aros.”
Bydd y sganiwr CT dros dro, a oedd wedi'i leoli dros dro ym maes parcio'r ysbyty, nawr yn symud i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd tra'n disgwyl am gael sganiwr newydd.