Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch Ni i'ch Helpu Chi pan gewch eich Derbyn mewn Argyfwng

Nid oes gan nifer o'r cleifion hŷn sy'n dod i mewn i'r ysbyty mewn ambiwlans unrhyw beth gyda nhw – dim dillad nac unrhyw ffordd o gysylltu â'u perthnasau, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Gyda chleifion yn methu cael ymwelwyr oherwydd cyfyngiadau COVID-19, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi creu tîm o Swyddogion Cyswllt Teulu i fod yn ddolen gyswllt rhwng y claf a'i deulu a'i ffrindiau.

Dywedodd Owain Davies, sy'n Swyddog Cyswllt Teulu yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, “O blith y 30 o gleifion y bûm yn cysylltu â nhw pan ddechreuais gyntaf, nid oedd gan 15 ohonynt unrhyw ddillad gyda nhw, nac unrhyw ffordd o gysylltu â'u perthnasau – roedd yn rhaid iddynt wisgo gŵn ysbyty. Maent yn dod yma mewn ambiwlans, a dim ond y dillad y maent yn eu gwisgo sydd ganddynt, a gallai hynny olygu eu pyjamas. Nid oes gan rai eraill unrhyw ffordd o gysylltu â'u hanwyliaid, gan nad oes ganddynt unrhyw ffôn na dyfais.”

Er bod tîm y Swyddogion Cyswllt Teulu yno i helpu'r cleifion hynny sy'n dod i mewn heb unrhyw beth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awyddus i ni feddwl am sut y gallwn ‘ein help ni i'ch helpu chi’ ar drothwy adeg brysuraf y flwyddyn o ran derbyniadau i'r ysbyty.  Os cewch chi, neu berthynas/anwylyn, eich derbyn i'r ysbyty mewn argyfwng, cymerwch eiliad i ystyried beth y bydd angen i'r claf ddod gydag ef. Dim ond bag bach y bydd ei angen, sy'n cynnwys pethau ymolchi, tywel bach, dillad sbâr, dillad nos, sliperi neu esgidiau, a llyfr da i basio'r amser, efallai, yn ogystal â ffôn neu ddyfais er mwyn cadw mewn cysylltiad.

Mae'r Brif Nyrs Nia Jones a'r Therapydd Galwedigaethol, Hannah Moses, ill dwy yn cytuno bod cyflwyno tîm y Swyddogion Cyswllt Teulu wedi golygu bod ganddynt ragor o amser i'w dreulio gyda'r cleifion i wneud mwy o'r pethau y mae angen eu gwneud i sicrhau eu bod yn gwella. Ychwanegodd y Brif Nyrs, Nia Jones, “Mae hyn wir wedi ein helpu yn ystod yr adegau anodd, prysur yn ddiweddar.”

Y Swyddogion Cyswllt Teulu yw'r ddolen gyswllt rhwng y claf a'i deulu yn ystod y pandemig. Gallant drefnu dillad, yn ogystal â chadw mewn cysylltiad trwy ddefnyddio dyfeisiau a ffonau. Aeth Owain ymlaen i ddweud, “Gall meddu ar eu heiddo eu hunain a gwisgo eu dillad eu hunain wneud gwahaniaeth enfawr i'r cleifion, ac mae gallu cadw mewn cysylltiad â'u teulu a'u ffrindiau yn eu helpu ar hyd y ffordd i wella'n gynt.”

Dywedodd Dennis Reed, sy'n glaf yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, “Rwyf wedi bod yn yr ysbyty ers dros ddau fis, ac rwy'n eithriadol o ddiolchgar am yr help y mae Owain a'i gyd-weithwyr wedi'i roi i mi. Mae'n wasanaeth mor wych, ac mae o fudd enfawr. Rwyf wedi gallu cadw mewn cysylltiad â'm plant a'm ffrindiau trwy ddefnyddio'r ffôn symudol a'r gwasanaeth Skype y mae tîm y Swyddogion Cyswllt Teulu yn eu darparu. Nid oeddwn erioed wedi defnyddio ffôn symudol cyn cael fy nerbyn i'r ysbyty.”

Ychwanegodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Dim ond oddi ar ddechrau'r flwyddyn y mae ein Swyddogion Cyswllt Teulu wedi bod gyda ni ond, mewn cyfnod mor fyr, maent eisoes wedi profi eu bod yn ased gwych, yn enwedig ar gyfer ein cleifion hynaf a mwyaf agored i niwed. Maent wedi bod yn olau llachar mewn blwyddyn sydd, fel arall, wedi bod yn un dywyll i wasanaethau iechyd a gofal ar hyd a lled y wlad. Pe gallai'r rheiny sy'n dod i'r ysbyty hefyd ein helpu ni i'w helpu nhw trwy ystyried beth y mae angen iddynt ddod gyda nhw, byddem yn gwerthfawrogi hynny.”

Nid dim ond y dillad y mae'r cleifion yn dod i'r ysbyty gyda nhw mewn argyfwng a all ein ‘ein help ni i'ch helpu chi’ yn ystod y pandemig. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae'r gwasanaeth ambiwlans yn cael nifer cynyddol o alwadau am achosion o lithro a baglu sy'n ganlyniad i wisgo esgidiau anaddas. Pan fo'r gwasanaethau yn cael eu hymestyn fel y maent ar hyn o bryd, cawn ein hannog i feddwl am berthnasau oedrannus yn arbennig, i sicrhau ein bod yn gwisgo esgidiau priodol, gyda gafael, ac i fanteisio ar brofion llygaid am ddim er mwyn ein hatal rhag baglu a chwympo.

Mae cipolwg ar waith y tîm Swyddogion Cyswllt Teulu newydd, a gyflwynwyd yn llwyddiannus i Fwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar gael i'w wylio yma: https://www.youtube.com/watch?v=DVBrYtV871E