Neidio i'r prif gynnwy

Gwraig 99 oed yn barod i'r Nadolig yn dilyn gweithdrefn ar y galon

Mae cyn-nyrs o Aberystwyth wedi canmol y weithdrefn “wyrthiol” gafodd ar ei chalon yn Ysbyty Bronglais ddyddiau’n unig cyn y Nadolig.

Bellach, mae Marjorie Edwards, 99, yn adfer yn ei chartref wedi iddi ddod y person hynaf i gael rheolydd calon gan y tîm cardiaidd lleol – y tro cyntaf iddi gael ei derbyn i ysbyty mewn 70 mlynedd.

Ac er y pandemig Covid-19 dywedodd Marjorie nad oedd hi wedi poeni o gwbl am ei arhosiad, gan ychwanegu ei bod wedi cael y gofal oedd ei angen arni.

Roedd Marjorie, a oedd yn nyrs yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn symud i Gymru gyda’i gŵr, Clement, oedd yn Feddyg Teulu, yn llawn canmoliaeth i’r staff a’r meddygon ym Mronglais wnaeth osod ei rheolydd calon wedi iddi gael ei rhuthro i’r ysbyty mewn ambiwlans fis diwethaf.

Dywedodd: “Roeddwn yn falch bod popeth yn mynd yn iawn a’u bod yn gofalu amdanaf; cefais y gofal mwyaf rhyfeddol, roedd o’r radd flaenaf. Roedd pob un, o’r ymgynghorwyr i’r gŵr bonheddig oedd yn golchi’r lloriau yn chwarae eu rhan gan wneud i mi deimlo’n ddiogel – doeddwn i ddim yn poeni.

“Rwyf wedi bod yn ffodus iawn yn fy mywyd a gallaf ddal i gerdded o gwmpas a gofalu am fy hun. Cefais y gofal oedd ei angen arnaf, a hynny yn Ysbyty Bronglais ger fy nghartref. 

“Rwy’n galw hyn yn wyrth, gan fy mod yn teimlo cymaint gwell, yn llawn bywyd ac heb fod yn poeni am ddim. Yn unig beth alla’i wneud yw diolch i’r Gwasanaeth Iechyd ac i Ysbyty Bronglais am eu gofal.”

Dywedodd merch Marjorie, Elizabeth Barnshaw, ei bod wedi cysylltu â’r Meddyg Teulu ar fore dydd Mawrth wedi iddi ddechrau poeni am gyflwr ei mam.

Ychwanegodd: “Dywedodd y Meddyg Teulu bod angen i fy mam fynd i’r ysbyty ac roedd yn hollol gywir. Roedd y parafeddygon mor broffesiynol a chalonogol. Gwnaethant asesiad trylwyr ohoni a siarad â’r Meddyg Teulu a dod i’r penderfyniad bod angen iddi fynd i’r Uned Frys. Roedd pawb yn wych ar hyd y system gyfan o ffonio’r feddygfa at ei rhyddhau o Fronglais i ofal y nyrs ardal.

“Roedd fy mam hefyd yn falch iawn bod nyrs yn gofalu amdani a oedd yn ei chofio pan oedd yn nyrsio ei hun yn yr hen ysbyty ar Ffordd y Gogledd, a gyda’i gilydd roeddent yn cofio cydweithwyr eraill. Mae’n bwysig bod pobl yn dal i fynd i ysbyty mewn argyfwng fel fy mam ac ymddiried y bydd y staff yn gofalu amdanynt a’u diogelu.

“Y peth anoddaf oedd methu ymweld na chael cyswllt uniongyrchol â fy mam oherwydd y cyfyngiadau presennol. Roeddwn yn medru siarad â hi ar ffôn y ward a threfnodd staff y ward i ni gael sgyrsiau dros Facetime a oedd yn tawelu fy meddwl. 

“Dim ond yn ddiweddar death fy mam adref ond mae hi eisoes yn cerdded heb gymorth – mae bron rhaid i mi redeg i ddal i fyny â hi! Mae’n gwneud yn wych.”

Ychwanegodd Marjorie: “Cwrddais â pobl hyfryd yn ystod fy amser yn yr ysbyty – o bob cwr o’r byd. Roedd pawb yn wych yn cymryd amser i egluro pethau i mi fel fy mod yn gwybod yn union beth oedd yn mynd i ddigwydd. Roedd hyn yn tawelu fy meddwl a chefais ofal arbennig o’r dechrau i’r diwedd.”

Meddai’r Cardiolegydd Ymgynghorol Donogh McKeogh: “Roeddwn yn falch iawn o allu cynnig gweithdrefn iddi yn lleol. Yn y gorffennol, byddai’n rhaid i gleifion fynd i Gaerfyrddin neu Dreforys i gael rheolydd calon, ond bellach mae gennym dîm sy’n medru gosod rheolydd calon, ac wrth gwrs mae’r  pandemig coronafeirws wedi pwysleisio’r pwysigrwydd bod Ysbyty Bronglais yn gwneud cymaint ag y gall.”