18 Rhagfyr 2024
Mae ysbryd y Nadolig yn fyw ac yn iach yn ysbyty Llwynhelyg wrth i Bob Elliott, gwirfoddolwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) ddosbarthu mins peis i staff ar y wardiau ddoe (17 Rhagfyr).
Am y chwe blynedd diwethaf, mae Bob, gyda bocsys o fins peis, wedi ymweld â'r wardiau ar ei Daith Mins Pei blynyddol.
Dechreuodd Bob wirfoddoli yn ysbyty Llwynhelyg yn 2016 ar ôl profedigaeth deuluol a phenderfynodd fod gwirfoddoli yn yr ysbyty yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl.
Dros y blynyddoedd mae’r Daith Mins Pei blynyddol wedi tyfu, a’r Nadolig hwn mae Bob yn ehangu ei gyflwyniad o hwyl y Nadolig i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, gyda chynlluniau i gynyddu’r cyflenwad i bob safle yn y blynyddoedd i ddod.
“Hoffwn ddiolch i’n siopau Morrisons lleol yn Hwlffordd ac Aberystwyth am eu cefnogaeth barhaus a’u rhodd garedig o fins peis,” meddai Bob. “Hebddynt ni fyddai Taith Mins Pei.”
Mae ein gwirfoddolwyr amhrisiadwy yn rhoi o’u hamser i gefnogi cleifion, gwasanaethau ac adrannau a gwella profiad cleifion yn yr ysbyty.Hyd yn hyn yn 2024, mae ychydig dros 10,895 o oriau wedi’u rhoi’n hael gan ein gwirfoddolwyr.
Gall cymorth gwirfoddolwyr fod yn rhywbeth mor syml â sgwrsio â chlaf neu helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'r ward iawn ar amseroedd ymweld.
Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol / Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae eich cefnogaeth i gleifion a staff yn gwneud gwahaniaeth bob dydd, diolch.
“Ar ran y bwrdd iechyd, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen iawn i’n holl wirfoddolwyr.”
Os oes gennych ddiddordeb, mae gan y bwrdd iechyd amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol ar gael. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddod i wybod am y gwaith sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ac mae'n darparu profiad bywyd go iawn o ryngweithio â chleifion ac ymwelwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli gyda Hywel Dda, ewch i ganolfan gwirfoddolwyr a phrofiad gwaith (agor mewn dolen newydd) y bwrdd iechyd, ffoniwch 07790 978576 neu e-bostiwch HDD.FutureWorkforceTeam@wales.nhs.uk
Llun: Y gwirfoddolwr Bob Elliott a Sian Rees, hyrwyddwr cwsmeriaid yn Morrisons, Hwlffordd yn danfon mins-peis i staff Ward 7, Ysbyty Llwynhelyg