Bydd newidiadau dros dro yn hwb i’r cleifion hynny sydd angen defnyddio’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau dros nos yn Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion, gan helpu i sicrhau bod iddynt fynediad gwell at glinigydd.
O 9 Mawrth, bydd y Bwrdd Iechyd yn cyflwyno mesurau â’r nod o ddarparu gofal mwy cyson a chadarn yn ystod y cyfnod dros nos (11pm – 8am, Llun i Sadwrn).
Bydd cleifion yn Llanelli sy’n deialu 111 yn ystod y cyfnod dros nos yn cael eu cyfeirio at yr Uned Mân Anafiadau dan Arweiniad Meddyg Teulu 24/7 yn Ysbyty Tywysog Philip os oes angen iddynt weld clinigydd, tra y bydd gofyn i bobl ardal Llandysul fynychu’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, yn ystod y cyfnod hwnnw.
Trwy gau’r safle Tu Allan i Oriau yn Llanelli a thrwy symud y Meddyg Teulu o Landysul i Glangwili yn ystod yr un cyfnod, rydym yn gobeithio y byddwn yn medru llenwi mwy o’n sifftiau clinigol ar benwythnosau – pan mae mwy o bobl yn defnyddio’r gwasanaeth – a darparu gwasanaeth mwy cyson a chadarn ar gyfer ein cleifion, a pharhau i’w hadolygu yn y modd mwyaf priodol. Nid oes unrhyw newid i’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip – os oes arnoch angen ofal brys na all aros am apwyntiad yn ystod oriau arferol eich Meddyg Teulu, gallwch barhau i’w defnyddio fel arfer.
Am beth amser, mae ein gwasanaeth Tu Allan i Oriau wedi dod yn fwyfwy bregus oherwydd anawsterau wrth lenwi rotas Meddygon Teulu, â’r sefyllfa’n arbennig o heriol ar benwythnosau. Mae hyn wedi arwain at orfod symud y clinigwyr hynny sydd ar gael o gwmpas er mwyn ceisio rheoli’r diffygion yn ôl yr angen, neu – yn gynyddol felly – cau canolfannau am gyfnodau hir o amser os na ellir llenwi’r rotas, a hynny er budd diogelwch cleifion.
Bydd y newidiadau dros dro hyn yn helpu i lywio ein trawsnewidiad tymor hwy o’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau, yn unol â’n strategaeth Canolbarth a Gorllewin Iachach, a byddwn yn gofyn i gleifion am adborth o’u profiad o’r newid dros dro hwn i helpu i lywio ein penderfyniadau.
Meddai Dr Richard Archer, Meddyg Teulu Tu Allan i Oriau ac Arweinydd Clinigol y Gwasanaeth: “Rhoddwyd llawer o gyhoeddusrwydd i’r ffaith ein bod wedi ei chael yn anodd darparu gwasanaeth cadarn Tu Allan i Oriau ym mhob un o’n tair sir oherwydd anawsterau wrth lenwi rotas.
“Lle nad oedd modd o gwbl llenwi rotas clinigol, rydym wedi gorfod cau canolfannau dros dro ac ailgyfeirio cleifion i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, sy’n rhoi pwysau pellach ar ein gwasanaethau brys, gan nad dyma’r lle mwyaf priodol i’r cleifion hynny bob amser.
“Trwy gyflawni’r newidiadau dros dro hyn ein gobaith yw gallu darparu mwy o ymgynghoriadau dros y ffôn; mwy o apwyntiadau wyneb yn wyneb, a mwy o bresenoldeb Meddyg Teulu yn Llanelli a Chaerfyrddin dros nos.
“Rydym yn cydnabod bod hyn yn golygu y bydd angen i rai cleifion yn Llandysul a’r ardal gyfagos deithio i Glangwili os byddant yn cael apwyntiad wyneb yn wyneb ar ôl hanner nos,a hoffwn ymddiheuro am unrhyw rwystredigaethau neu anghyfleustra y gallai hyn eu hachosi. Rydym yn gwybod ein bod ni yn profi llawer llai o weithgaredd y Tu Allan i Oriau yn Llandysul yn ystod y cyfnod dros nos nag mewn mannau eraill ac rydym yn disgwyl mai bychan iawn y bydd effaith y newidiadau hyn.
“Hoffwn dalu teyrnged arbennig a chynnig fy niolch diffuant i bob un o’n Meddygon Teulu a chlinigwyr sy’n parhau i weithio’n ddi-flino i helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleifion mewn amgylchedd heriol iawn.”
Ychwanegodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae rhoi cleifion yn gyntaf wrth wraidd popeth yr ydym yn ymdrechu i’w wneud ac mae hyn wedi bod yn allweddol i’n hawydd i ddatblygu’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau, yn y tymor byr a’r hir-dymor.
“Mae’n deg dweud bod y gwasanaeth hwn wedi profi pwysau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a dymunwn ddiolch i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth wrth inni barhau i ddatblygu’r model. Ein gobaith, trwy gyflwyno’r mesurau dros dro hyn, yw gallu dychwelyd i ddarparu mwy o wytnwch yn y gwasanaeth ac, ar yr un pryd, edrych ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud wrth symud ymlaen er mwyn darparu’r gofal y mae ein cleifion yn ei haeddu.”