Mae'r gwaith ar brosiect cyfleusterau obstetreg a newyddenedigol gwerth £25.2 miliwn yn Ysbyty Glangwili yn mynd rhagddo'n dda ar ôl cyrraedd rhai cerrig milltir adeiladu allweddol.
Bydd yr ail gam o'r prosiect ailddatblygu yn gwella cyfleusterau i famau, babanod a theuluoedd yn yr ysbyty. Mae'r cynllun yn cynnwys Uned Gofal Arbennig i Fabanod newydd gyda gwell llety a chyfleusterau i rieni, ystafelloedd geni a theatrau llawdriniaethau. Mae cynlluniau ar waith hefyd ar gyfer llefydd parcio ceir ychwanegol i staff.
Bydd y cynlluniau'n darparu amgylchedd modern ar gyfer darparu gwasanaethau obstetreg a newyddenedigol yn Ysbyty Glangwili.
Mae'r gwaith adeiladu i greu'r Ward mamolaeth newydd bellach wedi'i gwblhau ac ym mis Ionawr, bydd yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn symud i’r ardal hon, tra bod gwaith adnewyddu ar y gweill i drawsnewid eu gofod presennol yn uned newydd. Bydd hyn yn darparu gwelliant sylweddol i fabanod, teuluoedd a staff hyd nes bod yr uned barhaol newydd ar gael yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Keith Jones, Cyfarwyddwr Gofal Eilaidd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydyn ni wrth ein bodd bod gwaith wedi dechrau i wella cyfleusterau ar gyfer babanod, teuluoedd a staff a bydd yr ysbyty’n elwa’n fawr o ganlyniad i’r gwelliannau hyn a bydd y cam hwn yn digwydd yn Ionawr 2020.”
“Hoffem sicrhau pobl y bydd aflonyddwch yn cael ei gadw i'r lleiafswm a bod trefniadau lleol yn cael eu gwneud i sicrhau bod teuluoedd, ymwelwyr, ein staff ac asiantaethau allanol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd”
Trwy'r camau cynllunio, anogwyd staff a defnyddwyr gwasanaeth i rannu eu meddyliau a'u syniadau ar agweddau megis cynlluniau lliw ac offer gan gynnwys themâu dylunio, gorchuddion waliau, gorffeniadau llawr a dodrefn ar gyfer eu huned barhaol newydd.
Hoffem sicrhau cleifion ac ymwelwyr y bydd gwasanaethau'n parhau fel arfer yn ystod cyfnod y gwelliannau hyn.
Bydd diweddariadau cynnydd yn cael eu cyfleu trwy gydol y prosiect.