21 Mawrth 2020
Fel rhan o’n paratoadau i reoli’r pandemig COVID-19 Coronafeirws yn ardal Hywel Dda, mae’r bwrdd iechyd wedi dechrau rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer pob un o’n hysbytai acíwt a chyfleusterau gofal eraill er mwyn sicrhau y gallwn gadw cleifion yn ddiogel tra’n darparu gofal o’r safon uchaf posib ar gyfer ein poblogaeth.
Mae pob un o’n hysbytai yn Aberystwyth, Caerfyrddin, Hwlffordd a Llanelli yn datblygu cynlluniau sy’n cynnwys darparu ardaloedd penodol ar gyfer cynnydd disgwyliedig mewn nifer cleifion sy’n profi’n bositif am COVID-19 ac angen eu derbyn i ysbyty. Er mwyn gwneud hyn, mae angen symud neu newid rhai gwasanaethau am gyfnod dros dro er mwyn ein caniatáu i ddarparu gofal clinigol i’r cleifion hyn mewn amgylched mwy priodol, tra hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol eraill yn parhau i redeg mor ddi-drafferth â phosib.
Byddwn hefyd yn gosod adeiladau neu bebyll dros dro yn eu lle a bydd pobl yn cael eu hatgyfeirio i’r rhain wrth iddynt ddod yn weithredol.
O nos Sadwrn (21 Mawrth 2020) bydd yr Uned Gofal Ambiwladol Paediatrig (Uned PACU) yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, a elwir hefyd yn Ward Pâl, yn cael ei atal fel y gellir ei droi yn Uned Mân Anafiadau i oedolion a phlant trwy gyfnod y pandemig. Bydd teuluoedd â phlant sy’n dioddef mân anafiadau yn dal i allu cael gofal yn Llwynhelyg yn yr Uned Mân Anafiadu hon, ond bydd y plant hynny â salwch acíwt yn cael eu cyfeirio i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Dros y diwrnodau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn hefyd yn gweithredu newidiadau i gyfleusterau gofal eraill er mwyn ein helpu i ddelio â’r achosion cynyddol o gleifion COVID-19. Daw’r mesurau diweddaraf yn dilyn gohirio llawdriniaethau ac apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys yr wythnos ddiwethaf, cyfyngiadau newydd o ran ymweld a threfniadau mynediad at gyfleusterau gofal cymunedol. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i hysbysu ein cymunedau, staff a rhanddeiliaid o unrhyw newidiadau bob cam o’r ffordd, a bydd yn darparu diweddariadau pellach cyn hir.
Meddai Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Hywel Dda: “I ddechrau, rwyf am sicrhau ein cymunedau cyn belled ag y bo modd mai ein prif flaenoriaeth yw eich cadw chi, y cyoedd, yn ddiogel ac i ddarparu cymaint â phosib o barhad gofal. Mae ein staff clinigol ac anghlinigol wedi bod yn gweithio’n bob awr am wythnosau lawer i baratoi at hyn, a hoffwn fynegi fy niolchgarwch o waelod calon iddynt a diolch hefyd i’r cyhoedd, ein partneriaid a rhanddeiliaid am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.
“Mae angen i ni weithredu nawr, ac mae’r hyn rydym yn ei wneud yn unol â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau eraill ar hyd a lled y wlad wrth i’r Gwasanaeth Iechyd geisio rheoli’r pandemig COVID-19. Golyga hyn efallai y bydd yn rhaid symud, newid neu leihau rhai agweddau ar ofal, ac mae angen i’r cyhoedd fod yn barod am hynny. Byddwn yn parhau i ddiweddaru ein cymunedau, ein staff a’n rhanddeiliaid ar unrhyw newidiadau.”