Neidio i'r prif gynnwy

Gweithredu diwydiannol ar 6 a 7 Chwefror

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu diwydiannol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ewch i Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Streic - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (agor mewn dolen newydd).

2 Chwefror 2023

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN), Coleg Bydwragedd Brenhinol (RCM) a’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer gweithredu diwydiannol yn y rhan fwyaf o Gymru (gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) ar gyfer mis Chwefror.

  • Bydd aelodau’r RCN yn gweithredu’n ddiwydiannol ar 6 a 7 Chwefror,
  • Bydd aelodau’r RCN yn gweithredu’n ddiwydiannol ar 7 Chwefror,
  • Bydd aelodau’r CSP yn gweithredu’n ddiwydiannol ar 7 Chwefror.

Rydym yn gweithio gyda cynrychiolwyr ein undebau llafur yn y cyfnod yn arwain at ddyddiadau’r streic i sicrhau y gallwn gynnal diogelwch cleifion.

Er y bydd yr holl wasanaethau brys yn gweithredu fel arfer, mae angen i ni addasu ein gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio a blaenoriaethu cleifion ag anghenion gofal brys lle bynnag y bo modd. Bydd newidiadau i wasanaethau ar 6 a 7 Chwefror a byddwn yn cysylltu â chi os bydd y streic yn effeithio ar eich apwyntiad arfaethedig.

Bydd ein Hunedau Cemotherapi yn gweithredu fel arfer ar ddiwrnodau streic a bydd rhai llawdriniaethau ar gyfer achosion brys yn cael eu cynnal yn ein hysbytai.

Lle mae angen aildrefnu apwyntiadau, bydd y tîm perthnasol yn cysylltu â chleifion i aildrefnu eu hapwyntiad cyn gynted â phosibl. Mewn rhai achosion, gall hyn olygu dod ag apwyntiadau ymlaen. Bydd rhai apwyntiadau cleifion allanol wyneb yn wyneb yn dal i fynd rhagddynt, ac efallai bydd rhai yn cael eu cynnal fel apwyntiad ar-lein/rhithiol.

Os oes gennych apwyntiad ar unai 6 neu 7 Chwefror, ac nad ydym wedi cysylltu â chi, cymerwch yn ganiataol y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal. Rydym yn cysylltu â phob claf dros y ffôn neu drwy neges destun, felly gwiriwch eich ffôn am unrhyw negeseuon.

Bydd y rhan fwyaf o feddygfeydd, Fferyllfeydd Cymunedol a Gwasanaethau Deintyddol yn parhau i weithredu fel arfer ar 6 a 7 Chwefror.

Bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar rai gwasanaethau yn y gymuned. Fodd bynnag, bydd gwasanaethau brys, gan gynnwys nyrsio ardal â blaenoriaeth a'r tîm ymateb acíwt yn parhau i weithredu. Os bydd newid i'ch apwyntiad yn y gymuned ddydd Iau 15 Rhagfyr, bydd y tîm yn cysylltu â chi i aildrefnu eich apwyntiad.

Bydd yr holl wasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng yn parhau fel arfer. Os ydych yn sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, trowch at y gwiriwr symptomau (agor mewn dolen newydd) ar-lein neu ffonio GIG 111. Bydd yr Unedau Mân Anafiadau mewn ysbytai acíwt ar agor fel arfer. Mae oriau agor gwasanaethau cymunedol galw-i-mewn i’w gweld ar wefan y bwrdd iechyd (agor mewn dolen newydd). Ewch i Adran Achosion Brys, neu ffoniwch 999, os oes gennych salwch neu anaf difrifol lle mae bywyd yn y fantol, megis: 

  • Anawsterau anadlu difrifol 
  • Poen neu waedu difrifol 
  • Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc 
  • Anafiadau trawma difrifol (e.e., o ganlyniad i ddamwain car). 

Os ydych yn ansicr, cysylltwch â hyb cyfathrebu’r bwrdd iechyd ar 0300 3038322 (opsiwn 5 – gwasanaethau eraill) neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth ac arweiniad. Mae staff yn yr hyb cyfathrebu ar gael i ateb galwadau rhwng 8am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am-4pm ar y penwythnos.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a diolch am eich cefnogaeth a'ch amynedd.