Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio mewn partneriaeth i amddiffyn ein cymunedau

Diweddariad COVID Hywel Dda

Bydd popeth sydd angen ei wneud yn cael ei wneud, er mwyn amddiffyn cymunedau yng ngorllewin Cymru yng ngoleuni'r pandemig coronafirws meddai arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Arweinwyr Cynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi dweud y byddant yn sefyll ‘ysgwydd wrth ysgwydd’ i sicrhau bod dull cydgysylltiedig a phragmatig yn cael ei gymryd.

Bydd hyn yn cynnwys mynd ati i archwilio pob mecanwaith i gynorthwyo darpariaethau gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a rhoi anghenion y rhai mwyaf agored i niwed ar flaen y gad wrth wneud penderfyniadau a chydweithio.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Maria Battle, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Ellen ap Gwynn ac Arweinydd Cyngor Sir Penfro David Simpson mewn datganiad ar y cyd:

“I'r mwyafrif o bobl sydd gyda COVID-19  bydd y symptomau'n ysgafn ac yn debygol o fod yn beswch parhaus, a / neu dymheredd uchel a byddant yn gallu dychwelyd i'r gwaith ar ôl 7 diwrnod. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod y clefyd yn fwy difrifol i bobl â chyflyrau cymhleth presennol ac a byddwn yno ar eu cyfer. Bydd tarfu ar fywyd bob dydd hefyd yn cyflwyno ei heriau unigryw i'n gwasanaethau ehangach a'n gweithlu.

“Rydym yn ffodus yng ngorllewin Cymru i gael cymunedau clos ac rydym yn gwybod y bydd ein preswylwyr yn ymateb i'r her o edrych ar ôl eu hunain ac eraill, ac am hynny rydym mor ddiolchgar.

“Ein cyfrifoldeb ni fydd sicrhau nad oes unrhyw rwystrau yn gweithredu rhwng gwasanaethau cyhoeddus a byddwn yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ac yn cyfarwyddo ein timau arweinyddiaeth a gweithredol i weithio gyda'n gilydd a chodi uwchlaw ffiniau sefydliadol arferol os yw hynny er budd y cyhoedd”

Mae'r asiantaethau eisoes yn cyfarfod yn rheolaidd yn eu hymateb ar y cyd i'r sefyllfa hon a hefyd yn gweithio trwy Fforwm Gwydnwch Lleol Dyfed Powys. Mae'n bartneriaethau amlasiantaethol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau brys eraill, awdurdodau lleol, y GIG, Adnoddau Naturiol Cymru ac eraill.

Gwneir trefniadau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn y tri awdurdod lleol i ddarparu llety ychwanegol i breswylwyr pan fernir bod hynny'n angenrheidiol.

Atgoffir aelodau'r cyhoedd y gallant gael gwybodaeth a chyngor swyddogol am coronafirws gan https://phw.nhs.wales/coronavirus 

I amddiffyn eich hun a phobl eraill:

  • golchwch eich dwylo â sebon a dŵr yn aml - gwnewch hyn am o leiaf 20 eiliad
  • golchwch eich dwylo bob amser pan gyrhaeddwch adref neu i'r gwaith
  • defnyddio di heintydd dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael
  • gorchuddiwch eich ceg a'ch trwyn gyda hances bapur neu'ch llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch chi'n pesychu neu'n tisian
  • rhowch hancesi wedi'u defnyddio yn y bin ar unwaith a golchwch eich dwylo wedyn
  • ceisio osgoi cyswllt agos â phobl sy'n sâl
  • peidiwch â chyffwrdd â'ch llygaid, eich trwyn na'ch ceg os nad yw'ch dwylo'n lân