Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio gyda'n gilydd i ddarparu cyfleoedd

10 Gorffennaf 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe yn ymestyn eu partneriaeth i helpu i wella iechyd a lles cymunedau yn ne-orllewin Cymru ar ôl llofnodi cytundeb newydd.

Llofnododd y ddau sefydliad Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn seremoni ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin ddydd Mercher, 9 Gorffennaf sy'n ymrwymo i bartneriaeth mewn sawl maes, gan gynnwys ymchwil a datblygu, menter ac arloesedd a'r gweithlu, addysg a hyfforddiant.

Bydd rhan nesaf y bartneriaeth ymchwil ac arloesi yn gweld prosiectau gan gynnwys cydweithrediad cryfach â'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH) - menter gyffrous sydd â'r nod o yrru arloesedd ar draws sectorau gwyddorau bywyd, iechyd a chwaraeon.

Dathlodd Prif Weithredwr Hywel Dda, Dr Phil Kloer, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe yr Athro Paul Boyle, Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesedd a Gwerth a'r Athro Charlotte Rees, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd eu hymrwymiad parhaus mewn seremoni i ddiolch i benodeion anrhydeddus presennol a newydd am bopeth a wnânt i wneud y bartneriaeth yn llwyddiant.

Dywedodd Dr Kloer: “Mae gan Brifysgol Abertawe a Hywel Dda bartneriaeth hirsefydlog, sydd mor bwysig o ran gwella iechyd, cyfoeth a lles ein cymunedau a datblygu gweithlu lleol.

“Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn adeiladu ar y berthynas hon ac yn rhoi’r cyfle inni fyfyrio ar y gwaith da rydym eisoes wedi’i wneud gyda’n gilydd ac i edrych ymlaen at y gwaith da y byddwn yn ei wneud gyda’n gilydd yn y dyfodol.

“Mae hefyd yn cydnabod mai dim ond trwy gyfraniadau staff sy'n gweithio ar draws y ddau sefydliad y mae cryfder a dyfnder partneriaeth yn bosibl ac rydym yn falch iawn o barhau i weithio gyda'r brifysgol.”

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd hwn yn adlewyrchu’r bartneriaeth ddibynadwy a hynod effeithiol rhwng Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Edrychwn ymlaen at gam nesaf ein cydweithrediad, lle byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni arloesedd a phrosiectau effaith uchel o fudd i’n rhanbarth.”

Dywedodd Dr Leighton Phillips:

“Mae partneriaethau ystyrlon gyda sefydliadau fel Prifysgol Abertawe yn bwysig i ni. Mae partneriaethau’n dod ag adnoddau, momentwm, dealltwriaeth a gwybodaeth i’r broses ymchwil ac arloesi. Maent yn gwneud y mwyaf o’i photensial i gael effaith gadarnhaol ar ein gweithwyr, y gwasanaethau a ddarparwn, a’r canlyniadau a gyflawnir gyda’n cymunedau.

 “Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd hwn yn ymwneud ag ailddatgan ein hymrwymiad i gydweithio’n agos â Phrifysgol Abertawe er budd iechyd a lles ein rhanbarth.

“Mae hyn yn ehangu ar uchelgais ein Cynllun Strategol Ymchwil a Datblygu newydd, sy’n cynnwys cynlluniau i hyrwyddo datblygiad staff a chynyddu cyfranogiad mewn ymchwil fasnachol dros y pum mlynedd nesaf.”

Mae sawl datblygiad dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos yr hyn y gall y bartneriaeth ei gyflawni ar draws y rhanbarth.

Mae hyn yn cynnwys datblygu ystafelloedd efelychu o'r radd flaenaf yn y byd, sef , SUSIM sy'n rhoi hyfforddiant realistig i fyfyrwyr meddygol, nyrsio a bydwragedd gyda manicins uwch-dechnoleg i'w paratoi ar gyfer trin cleifion pan fyddant yn gymwys. Mae cyfleuster newydd gwerth £7 miliwn wedi'i ddatblygu ar Gampws Parc Singleton yn Abertawe, gyda safle lloeren ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin.

Mae prosiectau ymchwil ac arloesi pellach yn cynnwys penodiadau ar y cyd â'r Ganolfan Technoleg Iechyd i gefnogi dylunio cynnyrch cwmnïau gwyddor bywyd ynghyd â gwerthusiadau cydweithredol â'r Cyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd (JCRF) gyda'r nod o wella dulliau ataliol ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd.

Mae'r bartneriaeth hefyd wedi cysylltu â chefnogaeth academaidd ar gyfer Dylunio Ysbytai Bioffilig – sy'n ceisio creu adeiladau sy'n cysylltu pobl â natur.

DIWEDD