Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yn darganfod mwy am gymorth iechyd meddwl i rieni

21 Tachwedd 2024

Heddiw, ymwelodd Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant â Chanolfan Llesiant Seicolegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng Nghaerfyrddin.

Fe wnaeth hi ddarganfod mwy am y therapi seicolegol a chymorth a’r llwybrau a gynigir i rieni a’u babis gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol, a hynny ar y cyd â staff y Gwasanaethau Niwroamrywiaeth.

Cymerodd Ms Murphy ran mewn sesiwn ‘Adfer drwy Weithgaredd’ ac fe’i gwelir yma gyda Gemma Buffrey o Lanelli a’i mab Kobyn 14 mis oed, sydd wedi elwa o’r gwasanaeth.

Hefyd yn y llun o'r chwith mae Eleanor Marks, Is-Gadeirydd y Bwrdd Iechyd; Dr Nicola Peeke; Emily Dwyer, Arweinydd Tîm Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig; Angela Lodwick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu; Rebecca Temple-Purcell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio; Jane Whalley, Rheolwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod; Catherine Vaughan, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Niwroddatblygiadol; Diane Lewis, Therapydd Galwedigaethol Arbenigol Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod a Lisa Davies, Ymwelydd Iechyd Arbenigol Amenedigol.

Dywedodd Angela Lodwick: “Roeddem yn falch iawn o groesawu Sarah heddiw a rhoi’r cyfle iddi ddarganfod mwy am rywfaint o’r gwaith cydweithredol ac arloesol anhygoel o fewn ein gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a niwrowahaniaeth.

“Roedd ein tîm yn gallu rhoi rhywfaint o fewnwelediad iddi i'r gwaith rydym yn ei wneud a dywedodd ei bod wedi'i phlesio'n fawr gan y gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig yma.

“Yn ogystal, cafodd hi’r cyfle i sgwrsio gyda rhai o’r mamau sy’n defnyddio’n gwasanaethau’n rheolaidd ac i glywed sut y maen nhw wedi eu helpu.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles Sarah Murphy: "Roeddwn yn falch o gwrdd â staff, mamau a babanod yn y Gwasanaeth Amenedigol Iechyd Meddwl y bore yma. Roedd yn gyfle i glywed sut mae gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi mamau newydd pan fyddant yn teimlo'n fwyaf bregus. Roeddwn yn falch i glywed yr adborth gan y menywod - dywedodd un fam wrthyf na fyddai hi lle mae hi heddiw heb y gwasanaeth."

DIWEDD