12 Ionawr 2022
Mae pobl sydd angen gofal yn derbyn gwell gwasanaethau oherwydd rhaglen beilot a newidiodd y ffordd y mae staff iechyd a gofal cymdeithasol yng ngorllewin Cymru yn cael eu hyfforddi.
Mae’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth wedi tynnu sylw at y prosiect peilot hwn sy'n cael ei gynnal gan awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac sy’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Yn dilyn gwerthusiad o'r prosiect nodwyd bod y model ar y cyd o ran hyfforddiant sefydlu iechyd a gofal cymdeithasol wedi creu newidiadau cadarnhaol o ran ymarfer a gwell canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.
Roedd y cynghorau, y bwrdd iechyd ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi gweithio gyda'i gilydd ar y peilot rhwng 2019 a 2021.
Roedd dros 160 o aelodau staff wedi cwblhau’r rhaglen gyda 120 ohonynt hefyd yn llwyddo i gwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Roedd yr hyfforddiant sefydlu yn cefnogi gweithwyr newydd yn ystod eu misoedd cyntaf o gyflogaeth ac yn ymdrin â phynciau megis egwyddorion a gwerthoedd, gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a diogelu, yn ogystal ag iechyd a diogelwch, dementia ac arsylwadau iechyd hanfodol.
Roedd ymarferwyr profiadol o iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag arbenigwyr, wedi bod yn diwtoriaid a mentoriaid i gefnogi staff a oedd yn cael eu hyfforddi.
Canfu'r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth fod y peilot yn cynyddu hyder a chymhwysedd dysgwyr, ac yn cefnogi recriwtio a chadw'r gweithlu.
Nodwyd hefyd fod cydweithio effeithiol rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i lwyddiant y peilot.
Dywedodd Jonathan Griffiths, Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen Gweithlu Rhanbarthol: "Mae'r cynllun peilot sefydlu ar y cyd wedi ennyn canlyniadau rhagorol o ran sicrhau bod ein staff iechyd a gofal yn cael eu cefnogi i ddarparu gofal o safon uchel. Bydd cyflwyno'r rhaglen yn cael ei ddatblygu fel un o'n blaenoriaethau ar gyfer gorllewin Cymru drwy gyfrwng bwrdd y rhaglen gweithlu rhanbarthol.”
Dywedodd y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Ragoriaeth y byddai'n ceisio adeiladu ar y gwaith da a’r canlyniadau cadarnhaol a ddaeth yn sgil y peilot.
Ychwanegodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Rwyf wrth fy modd bod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiannus ac yn falch iawn y gallwn ddweud bod gennym y swydd iechyd a gofal cymdeithasol integredig gyntaf yng Nghymru i reoli'r rhaglen. Mae wedi bod yn ddull cwbl gydweithredol, sydd wedi ein galluogi i osod safonau ar gyfer yr holl weithwyr cymorth gofal iechyd newydd sy'n ymuno â'r sectorau. Mae'r dull hwn wedi sicrhau bod gan y gweithwyr hynny yr egwyddorion, y gwerthoedd, y ddealltwriaeth a'r sgiliau cywir i sicrhau bod anghenion y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn cael eu diwallu.”