7 Ionawr 2026
Mae clinigau podiatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwarae rhan hanfodol wrth ganfod cyflyrau cudd ar y galon a all arwain at strôc.
Mae'r dull arloesol hwn, sy'n defnyddio dyfais symudol fach i adnabod ffibriliad atrïaidd (AF), anhwylder rhythm y galon gyffredin a phrif achos strôc, wedi cael canmoliaeth uchel yn y categori Arloesi Digidol a Thechnoleg yng Ngwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd Cymru 2025.
Mae'r fenter yn gydweithrediad rhwng Gwasanaeth Podiatreg Hywel Dda, Gwasanaeth Arrhythmia, a'r Tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, gyda chefnogaeth timau digidol ar draws y bwrdd iechyd.
Yn draddodiadol, byddai podiatryddion a oedd yn canfod cyfradd curiad y galon afreolaidd yn cyfeirio cleifion at eu meddyg teulu am electrocardiogram (ECG), proses a allai gymryd amser ac weithiau'n golygu aros hirach am ddiagnosis.
Nawr, gyda'r dyfeisiau AliveCor KardiaMobile mewn clinigau, gellir gwneud ECG gradd feddygol mewn dim ond 30 eiliad. Mae deallusrwydd artiffisial yn nodi annormaleddau posibl, gan alluogi atgyfeirio'n gyflym at y Gwasanaeth Arrhythmia i'w gadarnhau. Yna mae cleifion ag AF wedi'i gadarnhau yn cael eu cyfeirio'n uniongyrchol at eu meddyg teulu am driniaeth amserol.
Dywedodd Ffion Lloyd-Thomas, podiatrydd ac arweinydd y prosiect: "Rydyn ni bob amser wedi gwirio cylchrediad y gwaed ac wedi gwrando ar gyfradd curiad y galon, felly roedd curiadau calon afreolaidd yn aml yn cael eu nodi. Yn flaenorol, roeddem yn dibynnu ar anfon llythyrau at feddygon teulu ar gyfer ECGs, a oedd weithiau'n golygu oedi. Nawr, gallwn atgyfeirio cleifion ar unwaith am gadarnhad a sicrhau eu bod yn cael y gofal sydd ei angen arnynt yn gynt."
Mae'r llwybr symlach yn golygu bod cleifion yn cael diagnosis yn gyflymach ac yn agosach at adref, gan leihau profion dilynol diangen a gwella canlyniadau.
Rhannodd Wyndham Marks, claf o Lanelli, ei brofiad: "Es i'r clinig am fy nhraed a darganfyddais fod gen i guriad calon afreolaidd ac roedd hynny wedi fy syfrdanu.”
“Rydw i’n mynd i edrych ar ôl fy hun yn llawer gwell nawr nag ydw i wedi bod yn ei wneud. Dydw i ddim yn gwybod ers pryd rydw i wedi bod yn cerdded o gwmpas gyda churiad calon afreolaidd a fyddwn i ddim wedi gwybod pe na bawn i wedi mynd i weld am fy nhraed.”
Dywedodd Christian Newman, Dirprwy Bennaeth Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn Hywel Dda: "Mae hon yn enghraifft ardderchog o Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ar waith. Trwy nodi AF yn gynnar, rydym yn lleihau risg strôc a chostau gofal iechyd wrth wella canlyniadau cleifion."
Ychwanegodd Dr Clive Weston, Arweinydd Cardioleg: "Mae'r dull cydgysylltiedig hwn yn dangos sut y gall podiatryddion, ffisiolegwyr cardiaidd a meddygon teulu weithio gyda'i gilydd i gefnogi iechyd y galon a'r ymennydd ochr yn ochr â gofal traed."
Mae Hywel Dda yn bwriadu ehangu sgrinio AF i ganolfannau diabetes a chlinigau fasgwlaidd, gan dargedu grwpiau cleifion sydd fwyaf mewn perygl.
DIWEDD
CWRDD A'R TIM: O’r chwith Mathew Banner, Uwch Ymarferydd Arhythmia Tîm Arhythmia Cardioleg Cymunedol; Carly Tucker-Williams, Rheolwr Prosiect Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth; Ffion Lloyd-Thomas, podiatrydd; Christian Newman, Dirprwy Bennaeth Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a Jane Lewis (Cardiff Met).