21 Mawrth 2025
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae gwasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn cydweithrediad â nyrsys eiddilwch yn y Gymuned ac Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi, wedi derbyn canmoliaeth uchel am ei waith yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth diweddar.
Mae diffyg maeth yn gyflwr difrifol iawn a all arwain at broblemau iechyd sylweddol, gan gynnwys cynyddu’r risg o gwympo, clwyfau sy'n gwella'n wael, colli cryfder, mwy o debygolrwydd o gael eu derbyn i’r ysbyty, arosiadau hwy yn yr ysbyty ac adferiad arafach.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth (MAW) yn fenter flynyddol yn y DU sy’n cael ei harwain gan Gymdeithas Brydeinig Maeth drwy'r Gwythiennau a'r Ymysgaroedd (BAPEN). Fel rhan o arolwg blynyddol cenedlaethol a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos, trefnodd aelodau o dîm Maeth a Deieteg y bwrdd iechyd yr arolwg sgrinio ar wardiau ysbytai ac mewn rhai lleoliadau cymunedol.
Ar ôl casglu'r nifer uchaf o arolygon, enwyd tîm Sir Gaerfyrddin, a gydlynir ac a arweinir gan Thomas Cooze, dietegydd arbenigol o fewn y Tîm Gofal Canolraddol, yn sgriniwr gorau yng Nghymru gan BAPEN.
Dywedodd Emma Catling, Arweinydd Strategol Malnutrition BIP Hywel Dda: "Fe wnaeth ein timau ar draws y tair sir gefnogi'r arolwg eto eleni, gan dynnu sylw at ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i gasglu'r data a chefnogi'r broses sgrinio maethol.
"Yn ogystal â chyfrannu at arolwg sylweddol ledled y DU, mae gennym hefyd ddata lleol ystyrlon a fydd yn cael ei ddefnyddio i ganolbwyntio ein gwasanaethau gyda'r nod o nodi ac atal diffyg maeth yn gynt".