Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod yn Aberteifi yn agor y penwythnos hwn

10 Ionawr 2025

Er mwyn helpu i leddfu’r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys yn ein hysbytai, bydd Gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDUC) Ceredigion yn agor rhwng 9am - 6pm y penwythnos hwn (11/12 Ionawr 2025) i gleifion gerdded i mewn heb apwyntiad ymlaen llaw.

Mae’r SDUC, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi (SA43 1JX), yn cael ei arwain gan Uwch Ymarferwyr Nyrsio sy’n gallu asesu, gwneud diagnosis a thrin cleifion sy’n cerdded i mewn sydd wedyn yn gallu dychwelyd adref yr un diwrnod, gyda chynllun gofal yn cynnwys atgyfeiriadau at wasanaethau eraill os oes angen.

Mae ein hysbytai ar hyn o bryd yn delio â galw digynsail, sy’n arwain at oedi sylweddol o ran darparu gofal ac arosiadau hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.  Os oes gennych gyflwr y gellir ei weld a’i drin yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, byddem yn eich annog yn gryf i fynychu gan y gallwch gael eich gweld yn gyflymach, yn ogystal â helpu i leddfu’r pwysau ar y system ysbyty.

Mae’r math o gyflyrau y gall ein Uwch Ymarferwyr Nyrsio eu gweld yn cynnwys:

(Sylwer: Gellir gweld cleifion dros 12 mis oed ar gyfer mân anafiadau, dros 5 oed ar gyfer mân salwch.)

  • Heintiau yn y Frest
  • Heintiau Clwyfau
  • Tonsilitis / dolur gwddf
  • Heintiau Clust
  • Mân anafiadau i'r Frest/Clun/Pelfis/Cefn – Rhaid i'r claf allu symud
  • Mân Anaf i'r Pen
  • Poen yn y frest nad yw’n ymwneud â’r galon
  • Cwynion croen gan gynnwys brechau, heintiau a llosg haul
  • Ysigiadau, straeniau ac anafiadau i feinwe medal
  • Clefyd y gwair, adweithiau alergaidd ysgafn
  • Mân anafiadau - briwiau, clwyfau
  • Mân anafiadau i’r llygad, cwynion a llid sy’n gofyn am ddyfrhau, ac anafiadau cemegol i’r llygaid
  • Atal cenhedlu brys
  • Tor-asgwrn tybiedig ac anafiadau i'r pen-glin, rhan isaf y goes, y ffêr a'r droed
  • Tor-asgwrn tybiedig ac anafiadau i’r fraich
  • Brathiadau anifail, pryfed neu ddynol
  • Mân losgiadau a sgaldiadau
  • Tynnu corffynnau estron o’r llygad, clust, trwyn a’r croen

Ni fydd cyfleuster Pelydr X ar gael ar y penwythnos, fodd bynnag gall ymarferwyr asesu, cynghori a chyfeirio at y prif safle os oes angen.

Os oes gennych angen gofal mwy brys, ewch i adran damweiniau ac achosion brys neu mewn argyfwng meddygol sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999.

Os hoffech siarad â nyrs brysbennu yn y ganolfan yn gyntaf i drafod eich cyflwr, ffoniwch 01239 803 075.