Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth deintyddol pwrpasol y GIG i agor yng Nghanolfan Iechyd Integredig Aberteifi

24 Medi 2021

Bydd gwasanaeth newydd i ddarparu gofal deintyddol arferol y GIG yn Aberteifi yn agor ddydd Llun 4 Hydref yng Nghanolfan Iechyd Integredig y dref.

Mae Practis Deintyddol GIG Aberteifi wedi bod yn darparu gofal deintyddol gofal brys a hanfodol y GIG o un feddygfa yn y ganolfan er mis Rhagfyr 2020.

O'r mis nesaf, bydd y Practis yn agor dwy feddygfa arall yn y ganolfan, gan ddod â'r cyfanswm i dri.

Bydd cleifion yn cael eu dyrannu i'r practis o restr aros De Ceredigion yn nhrefn yr angen clinigol a bydd hyn yn cael ei wneud mewn sypiau.

Rheolir y rhestr aros gan Dîm Gwasanaethau Deintyddol y bwrdd iechyd ac nid oes angen i gleifion sydd eisoes wedi ychwanegu eu manylion at y rhestr gymryd unrhyw gamau pellach gan y cânt eu dyrannu i'r practis.

Gofynnir i gleifion beidio â chysylltu â'r Practis yn uniongyrchol a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau rhestr aros at y Tîm Gwasanaethau Deintyddol ar 01267 229693 neu drwy HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk

Gall cleifion sy'n dymuno cael eu hychwanegu at y rhestr aros wneud hynny gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod a darparu eu henw, dyddiad geni, cyfeiriad, rhif ffôn cyswllt a chyfeiriad e-bost.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Thymor Hir ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yn ardal De Ceredigion ac mae'r practis a’r Bwrdd Iechyd yn edrych ymlaen at ddechrau'r gwasanaeth hwn.

“Bydd yn cymryd amser i’r practis sefydlu sylfaen cleifion felly gwerthfawrogir eich amynedd a’ch cydweithrediad ar yr adeg hon.

“Hoffem ddiolch i ddarpar gleifion am eu cefnogaeth i gadw at y broses uchod a fydd yn sicrhau y gellir asesu a chefnogi pob claf cyn gynted â phosibl.”

Bydd nifer cleifion yn y practis yn cael ei leihau ar yr adeg hon yn unol â chanllawiau cenedlaethol ynghylch pellhau cymdeithasol a gweithdrefnau atal a rheoli heintiau. Bydd hyn hefyd yn cynnwys defnyddio offer amddiffyn personol yn briodol.

Bydd taliadau ac eithriadau deintyddol y GIG yn berthnasol yn y practis.