Mae gwasanaeth cymorth cwnsela a llesiant emosiynol ar-lein newydd i bobl ifanc yng nghanolbarth a gorllewin Cymru wedi'i lansio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae'r Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (S-CAMHS) wedi comisiynu Kooth, sy'n wasanaeth cwnsela ar-lein ac wedi'i achredu gan Gymdeithas Seicotherapi a Chynghori Prydain.
Yn dilyn atgyfeiriad priodol gan S-CAMHS, bydd pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed nawr yn gallu cael gafael ar gwnsela ar-lein trwy eu dyfais symudol, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae Kooth yn darparu dull gyfunol o gwnsela ar-lein, cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc, sy'n rhad ac am ddim, yn ddiogel ac yn ddienw gan gwnselwyr cyfeillgar.
Bydd cwnselwyr profiadol ar gael ar gyfer sesiynau galw heibio rhithwir neu sesiynau sgwrsio y gellir eu harchebu rhwng hanner dydd a 10pm yn ystod yr wythnos, ac o 6pm tan 10pm ar benwythnosau. Mae taflenni ar gael yn Saesneg a Chymraeg ac ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn recriwtio cwnselwyr sy'n siarad Cymraeg.
Yn ogystal â chwnsela ar-lein, mae Kooth yn cynnig cefnogaeth cymar-i-gymar, fforymau wedi’u cymedroli gydag aelodau ifanc eraill o’r ‘gymuned Kooth’ ac ystod eang o ddeunyddiau hunangymorth.
Bydd pobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn gallu ceisio cefnogaeth neu gyngor ar unrhyw bwnc y maent yn dymuno, o ymdopi â straen arholiad neu fwlio, ceisio cymorth ar gyfer materion bwyta a delwedd y corff, delio â meddyliau hunanladdol neu drin cam-drin rhywiol. Nid oes trothwyon na rhwystrau i bobl ifanc rhag derbyn cymorth gan Kooth.
Dywedodd Pennaeth S-CAMHS Angela Lodwick, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn croesawu’r gwasanaeth cwnsela digidol ar-lein newydd hwn i ategu a chefnogi’r ystod o wasanaethau S-CAMHS sydd ar gael i bobl ifanc fel rhan o’r ymrwymiad parhaus i wella gwasanaethau iechyd meddwl lleol.”
Ychwanegodd Dr Lynne Green, Prif Swyddog Clinigol, Kooth: “Rydyn ni wrth ein boddau gweld y bydd pobl ifanc 11 i 18 oed yng nghanolbarth a gorllewin Cymru nawr yn gallu elwa o wasanaethau Kooth.
“Mae gwasanaeth iechyd meddwl digidol fel Kooth yn fuddiol i bobl ifanc gan ei fod yn anhysbys ac yn rhydd o’r stigma y mae rhai unigolion yn ei wynebu.
“Gall pobl ifanc fewngofnodi’n hawdd i Kooth, gan nad oes ganddo restrau aros a dim trothwyon i’w cwrdd i gael mynediad at gefnogaeth. Mae ein cwnselwyr cymwys wrth law i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad bob dydd.
“Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi pobl ifanc yn ardal Hywel Dda gyda’u hiechyd meddwl ac annog pob person ifanc i ofyn am gymorth ar Kooth.”