Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cofio Babanod a Garwyd ac a Gollwyd yn Ysbyty Llwynhelyg

Cannwyll wedi

19 Medi 2024

Bydd y gwasanaeth coffáu babanod a garwyd ac a gollwyd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 1 Hydref 2024 yng Nghapel Sant Luc yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd am 7.00pm.

Mae’r gwasanaeth yn rhan o ymrwymiad y bwrdd iechyd i wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod (9-15 Hydref) ac yn cael ei drefnu gan dimau Bydwreigiaeth a Phrofedigaeth a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth).

Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae profi colli babi yn brofiad hynod boenus, ac mae’r gwasanaeth yn galluogi rhieni a’u teuluoedd i fyfyrio a chofio gyda chefnogaeth a chariad o’u cwmpas.

Mae’r gwasanaeth wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro a bydd yn cynnwys gweddïau a darlleniadau, yn ogystal â cherddi a cherddoriaeth i fyfyrio. Mae’r gwasanaeth yn cynnig y cyfle i bobl ddod at ei gilydd a chofio bywydau babanod sydd yn anffodus ddim gyda ni bellach.

Parhaodd Euryl Howells: “Mae colli babi trwy gamesgoriad, marw-enedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol yn llethol ac emosiynol. Rydyn ni’n cwrdd â theuluoedd yn ystod rhai o’u dyddiau tywyllaf ac mae cwrdd â nhw weithiau ar ôl misoedd neu flynyddoedd ar ôl eu profedigaeth yn fraint ac yn arbennig i staff.”

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells drwy ffonio 01267 227563 neu neu e-bostio Euryl.Howells2@wales.nhs.uk

Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffáu eich anwylyd, anfonwch neges at Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk erbyn 29 Medi 2024.