28 Mawrth 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau heddiw (dydd Iau, 28 Mawrth 2024) y bydd gwaith adeiladu ar yr Uned Ddydd Cemotherapi (CDU) newydd yn Ysbyty Bronglais yn dechrau ym mis Mai.
Bydd y prosiect yn sicrhau gwelliannau sylweddol mewn gofal a phrofiad i gleifion Hywel Dda.
Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion Hywel Dda a chyfarwyddwr prosiect ar gyfer datblygu’r uned newydd: “Rwy’n falch iawn y byddwn yn gwireddu ein huchelgais yn fuan i Ysbyty Bronglais gael uned addas i’r diben ar gyfer cleifion canser.
“Rydym wedi goresgyn oedi byr, a gyda chefnogaeth gan ein staff, Elusennau Iechyd Hywel Dda, aelodau ein Bwrdd a’n contractwr adeiladu, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau’n fuan. Rwy’n disgwyl i’r uned newydd gwerth £3 miliwn fod yn barod i groesawu ei chleifion cyntaf y flwyddyn nesaf.”
Mae'r gyllideb ar gyfer y datblygiad wedi bod dan bwysau oherwydd costau deunyddiau sy'n cynyddu'n gyflym. Fodd bynnag, gyda chynllunio a chyllidebu gofalus, mae’r bwrdd iechyd bellach ar y trywydd iawn i bron i ddyblu’r arwynebedd llawr sydd ar gael ar gyfer triniaeth ac ardaloedd staff i 600 metr sgwâr.
Mae Peter Skitt yn parhau: “Bydd y prosiect yn ailfodelu rhan o’r arwynebedd llawr presennol ac yn addasu llety i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion staff a chleifion i ddarparu cyfleuster modern a chroesawgar.
“Yn olaf, mae ein dyled yn fawr i ymdrechion codi arian diflino ein cefnogwyr elusennol, llawer ohonynt yn staff ein hunain neu’n aelodau o’n cymunedau Ceredigion, de Gwynedd a Phowys. Bydd eu hymrwymiad yn ein helpu i wireddu gweledigaeth sydd gennym ar gyfer ein cleifion a'n staff ers 2017. Bydd y cyfleuster newydd yn gwbl anadnabyddadwy o'i gymharu â heddiw,” meddai.
DIWEDD