Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith diogelwch yn parhau yn Ysbyty Llwynhelyg

28 Gorffennaf 2023

Mae gwaith yn parhau ar raglen o arolygon yn Ysbyty Llwynhelyg i ganfod cyflwr planciau to concrit mewn wardiau ar safle'r ysbyty yn Hwlffordd.

Nod yr arolygon, a ddechreuodd ym mis Mai 2023, yw i reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â phlanciau concrit awyrog awtoclaf wedi'u hatgyfnerthu (RAAC), a disgwylir iddynt barhau am o leiaf saith mis arall. 

Mae RAAC yn ddeunydd cyffredin a ddefnyddiwyd mewn gwaith adeiladu rhwng y 1960au a'r 1990au. Mae ei bresenoldeb wedi’i gadarnhau mewn amrywiaeth o eiddo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ledled y Deyrnas Unedig ac gan gynnwys sawl eiddo yng Nghymru. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Andrew Carruthers: “Mewn ymateb i rybuddion gan Lywodraeth Cymru a’r diwydiant ehangach ar y cynnyrch hwn, rydym wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i reoli’r risg.

“Ym mis Mai 2023 fe wnaethom benodi cwmni peirianneg strwythurol i gynnal arolygon dwys pellach o’r ardaloedd dan sylw a darparu adroddiad llawn ar bob planc RAAC unigol.”

Mae gwaith arolwg yn cael ei gynnal yn gyflym ac mae'n debygol o barhau am sawl mis arall. Mae'r gwaith yn cynnwys arolwg gweledol o'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt, cyn arolwg manwl planc wrth blanc.

Lle nodir problemau strwythurol, mae graddau'r gwaith adfer hefyd yn cael ei asesu. Efallai y bydd mwy o fesurau lliniaru lleol ar waith, gan gynnwys propiau strwythurol a chau ardaloedd yr effeithir arnynt dros dro.

Parhaodd Mr Carruthers. “Bydd gwaith arolygu a thrwsio yn cael effaith ar ardaloedd clinigol a wardiau’r ysbyty felly mae’r holl drefniadau ar gyfer gwaith atgyweirio yn cael eu cefnogi gan reolwyr clinigol yr ysbyty.”

Rhoddwyd cynlluniau ar waith ar ddechrau'r broses arolwg i reoli'r effaith ar weithrediad gwasanaethau o ddydd i ddydd yn yr ysbyty ac mae argaeledd gwelyau ysbyty yn flaenoriaeth.

Mae trefn yr arolygon a'r gwaith adfer cysylltiedig wedi'u trefnu i wneud y gorau o gapasiti clinigol ac i sicrhau y gall llawdriniaethau arferol ac argyfwng barhau gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar ofal cleifion.

I wneud iawn am golli gwelyau dros dro yn Llwynhelyg, defnyddiwyd capasiti ychwanegol yn Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro drwy sicrhau bod 14 o welyau ar gael ar Ward Cleddau.

"Mae ein timau ysbyty a chymunedol yn cydweithio'n agos i ddarparu dewisiadau amgen effeithiol i'r capasiti is yn Llwynhelyg, gan sicrhau bod ein cleifion yn derbyn gofal mewn lle sy'n gweddu orau i'w hanghenion, gan gynnwys mwy o welyau a thriniaethau yn ein hysbytai cymunedol," meddai Mr Carruthers. "Mae hyn yn ei dro wedi ein galluogi i drin mwy o gleifion sydd wedi bod angen gofal ysbyty a lleihau'r amser maen nhw'n aros yn yr ysbyty."

Mae timau bellach yn rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer cam nesaf yr arolygon ar weddill y wardiau a'r swyddfeydd ar lawr gwaelod Ysbyty Llwynhelyg. Mae hyn yn cynnwys arolwg gweledol o blanciau yn y lle cyntaf, a fydd yn nodi unrhyw feysydd sy'n peri pryder.

Parhaodd Mr Carruthers: “Rydym yn gwybod y gall y gwaith arolwg achosi cryn aflonyddwch a hoffwn ddiolch i staff yr ysbyty, cleifion ac ymwelwyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni gynnal y gwaith hanfodol hwn.”