Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith celf wedi ei greu o gaeadau brechlyn wedi'i ailgylchu yn ennill yng Ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru

17 Mehefin 2024

Mae gwaith celf a grëwyd o filoedd o gaeadau brechlyn COVID-19 plastig a achubwyd o safleoedd tirlenwi gan staff a gwirfoddolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi ennill Gwobr Diwylliant ac Iaith Cymru yng Ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru eleni.

Yn ystod anterth y rhaglen frechu COVID-19, fe wnaeth Gemma Brown, arweinydd canolfan frechu torfol ar y pryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda annog staff a gwirfoddolwyr i gasglu’r caeadau ffiol brechlyn.

Y weledigaeth oedd creu darn o gelf pwrpasol i anrhydeddu ymdrechion anhygoel staff gofal iechyd a gwirfoddolwyr trwy gydol y pandemig a llwyddiant y rhaglen frechu.

Yn 2023, crëwyd ‘Dos o Gelf', gwaith celf hynod gan Nathan Wyburn yn portreadu dau aelod o staff y GIG yn gwenu heb Offer Amddiffynnol Personol (PPE), gan gyfleu neges o obaith, rhyddid, cymuned, golau a bywyd.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o greu’r gwaith celf gwych ‘Dos o Gelf’ ac ar eich cydnabyddiaeth gan Wobrau Cynaliadwyedd Cymru.

“Mae’r fuddugoliaeth hon yn cwmpasu llawer o feysydd sy’n bwysig iawn i ni fel bwrdd iechyd, cynaliadwyedd, integreiddio celf i’n lleoliadau gofal iechyd, ac wrth gwrs anrhydeddu ein holl staff a gwirfoddolwyr am eu hymroddiad trwy gydol y pandemig.

“Roedd y rhaglen frechu yn anhygoel o angenrheidiol, ond canlyniad anfwriadol oedd cynnydd yn y gwastraff a fyddai’n mynd i safleoedd tirlenwi.

“Fe’i hysbrydolwyd gan Gemma i weld cyfle i ail-ddefnyddio’r caeadau plastig nid yn unig i greu darn o waith celf ond hefyd i atal miloedd o ddarnau o blastig rhag cael eu taflu i ffwrdd.”

Cafodd y gwaith celf ei ddadorchuddio fis Rhagfyr diwethaf yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ar drydydd pen-blwydd y brechlyn COVID-19 cyntaf a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ar hyn o bryd mae'n teithio ar draws lleoliadau gofal iechyd trwy gydol 2024 a 2025.

Ychwanegodd Sharon: “Ein nod yw i gynifer o bobl â phosibl gael y cyfle i weld y gwaith celf hwn gan fod hyn yn ddiolch i bawb a weithiodd drwy’r pandemig.

“Mae’n cael ei arddangos ar hyn o bryd yn yr adran cleifion allanol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin a gobeithiwn y caiff pobl gyfle i’w weld wrth iddo symud i’n lleoliadau gofal iechyd eraill ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro dros y flwyddyn i ddod.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr yng ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru eleni!

“Mae eich ymdrechion yn allweddol wrth lunio system gofal iechyd fwy cynaliadwy a gwydn am genedlaethau i ddod, ac er budd pawb yng Nghymru.

“Mae ehangder ac amrywiaeth y prosiectau arloesol a anrhydeddwyd yn y gwobrau yn adlewyrchiad clir o’r dalent sydd gennym yn ein gweithlu.

“Da iawn ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon a dylech chi i gyd fod yn falch iawn ohonoch chi’ch hun.”

Roedd gwireddu Dos o Gelf yn bosibl trwy gyllid a ddarparwyd gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dyma restr lawn o enillwyr Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru 2024:

1. Gwobr 'Cynaliadwyedd mewn Nyrsio a Bydwreigiaeth' y Prif Swyddog Nyrsio – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

2. Y Wobr Lledaeniad - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

3. Gwobr Hyrwyddwr Cynaliadwy – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

4. Gwobr Cymunedau Cydlynus Cymru - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

5. Gwobr Cymru Fwy Cyfartal - Ysbyty'r Tywysog Siarl

6. Gwobr Diwylliant ac Iaith - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

7. Gwobr Cymru Lewyrchus - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

8. Gwobr Cymru Gydnerth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe GIG Cymru

9. Gwobr Cymru Iachach - Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

10. Gwobr Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang - Bwrdd Iechyd Ysbyty Prifysgol Caerdydd a'r Fro