12 Medi 2025
Daeth staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd yn ddiweddar i greu cyfres o weithiau celf lliwgar fydd bellach yn cael eu harddangos ar draws y pedair ysbyty acíwt yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Cynhaliwyd y sesiwn greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg, dan arweiniad yr artist Rhys Jones, gan roi cyfle i staff gyd-greu mewn awyrgylch ofalgar a chefnogol. Gan fod y cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg yn brin, roedd y digwyddiad yn cynnig lle diogel a gwerthfawr i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fynegi eu hunain, gan gyfrannu’n uniongyrchol at eu llesiant a’u hiechyd meddwl.
Cyfarwyddwyd y sesiwn gan yr artist Rhys Jones o OrielOdl, a fu’n amyneddgar wrth annog a chefnogi staff i ddatblygu eu syniadau a’u mynegiant artistig wrth fagu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae’r paneli celf gorffenedig yn darlunio tirnodau lleol o bob un o’r tair sir ac yn cynnwys geiriau sy’n adlewyrchu gwerthoedd sefydliadol Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae’r gweithiau hefyd yn portreadu ystod eang o staff mewn gwisgoedd gwahanol, gan ddathlu amrywiaeth a brwdfrydedd gweithlu’r bwrdd iechyd.
Bydd y gweithiau celf i'w gweld yn bellach i’w gweld yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Llwynhelyg a Tywysog Philip, er mwyn i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff eu mwynhau.
Trefnwyd y digwyddiad gan Dîm y Gymraeg y bwrdd iechyd a’i gefnogi gan Dîm Celfyddydau ac Iechyd Hywel Dda, drwy’r Rhaglen Gweithgareddau Creadigol ar gyfer Llesiant Staff, sydd wedi’i hariannu gan Elusennau Hywel Dda. Roedd hefyd yn rhan o Wythnos Creadigrwydd a Llesiant Cymru.
Dywedodd Rhys Jones, OrielOdl: “Roedd e'n bleser gallu derbyn y gwahoddiad i gydweithio gyda staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar y prosiect creadigol hwn. Dwi'n falch o allu cynnig gwasanaeth o'r fath yn y Gymraeg ac roedd hi'n hyfryd gweld brwdfrydedd pawb ar ddiwrnod y peintio. Gwnes i fwynhau mas draw yng nghwmni pawb. Mae cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd celf yn ffordd arbennig o ymlacio a chymdeithasu. Braf iawn yw gweld y bwrdd iechyd yn cynnig prosiect o'r fath i hybu lles eu staff, gan annog hynny drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.”
Dywedodd Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg yn Hywel Dda: “Roedd hi’n galonogol iawn gweld staff yn dod ynghyd i fynegi eu hunain yn greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae darparu cyfleoedd o’r fath yn bwysig i’n llesiant ac yn dangos ein hymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan naturiol o fywyd gwaith bob dydd. Bydd y paneli hyn yn atgof gweledol o’n gwerthoedd a’n cysylltiad â’n cymunedau lleol.”
Dywedodd Luke Winston, Cynorthwyydd Archwilio Clinigol a fynychodd y sesiwn: “Roedd cymryd rhan yn y gweithdy yn brofiad hynod o gadarnhaol. Roedd yn hyfryd cael bod yn greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chydweithwyr o adrannau gwahanol. Roedd yr awyrgylch yn hamddenol ac yn gefnogol, ac fe roddodd hwb gwirioneddol i’m llesiant. Rwy’n falch iawn y bydd ein gwaith celf bellach yn cael ei arddangos yn yr ysbytai i’w fwynhau gan gleifion a staff fel ei gilydd.”