Neidio i'r prif gynnwy

Gwahodd pobl rhwng 75 a 79 oed i dderbyn eu brechiad COVID mewn canolfan frechu dorfol

Diweddariad COVID Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn cyhoeddi bydd llythyrau yn cyrraedd yn y dyddiau nesaf yn gwahodd 20,000 o drigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro rhwng 75 a 79 oed i dderbyn eu brechlyn COVID cyntaf mewn canolfan frechu dorfol.

Bydd y llythyr yn darparu amser apwyntiad yn un o'r canolfannau brechu torfol canlynol:

  • Aberystwyth – Llyfrgell Thomas Parry, Campws Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth
  • Aberteifi – Canolfan Hamdden Teifi
  • Caerfyrddin – Canolfan Gynadledda Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Hwlffordd – Archifdy Sir Benfro, Prendergast
  • Llanelli – Theatr Ffwrnes
  • Dinbych-y-Pysgod – Canolfan Hamdden Dibych-y-Pysgod.

Bydd y canolfannau brechu torfol hyn yn darparu amgylchedd diogel, lle i gynnal pellter cymdeithasol wrth ganiatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosibl.

Mae'n hanfodol eich bod yn gwneud pob ymdrech i fynychu eich apwyntiad.

Bydd angen i chi ohirio'ch apwyntiad os ydych chi wedi cael prawf coronafeirws positif cyn pen 28 diwrnod ar ôl yr apwyntiad hwn neu os ydych chi'n sâl â thwymyn, yn cael peswch parhaus newydd neu'n colli, neu’n profi newid yn eich synnwyr blas arferol neu arogli.

Rhowch wybod i ni os na allwch ddod neu os oes angen i chi ohirio'ch apwyntiad cyn gynted â phosibl trwy ffonio'r rhif a ddarperir yn eich llythyr apwyntiad. Bydd hyn yn golygu y gallwn roi eich apwyntiad i rywun arall ac arbed adnoddau'r GIG.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hyd yma rydym wedi bod yn defnyddio ein canolfannau brechu torfol i frechu ein staff rheng flaen iechyd, gofal cymdeithasol a chartrefi gofal. Gyda dros 85% o weithwyr iechyd rheng flaen wedi cael eu dos cyntaf, ac yn gweld cynnydd cyflym gyda staff cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol, rydym nawr yn symud ymlaen i gam nesaf ein cynllun cyflenwi.

“Bydd agor ein canolfannau brechu torfol i’r cyhoedd yn caniatáu inni gynnig brechlyn i fwy o bobl cyn gynted ag y bydd cyflenwadau ar gael inni. Os ydych wedi derbyn gwahoddiad mae hynny oherwydd eich bod mewn grŵp blaenoriaeth ac mewn mwy o berygl o gymhlethdodau os byddwch yn dal COVID-19.

“Mae brechlynnau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn achub bywydau ac mae’r brechlyn COVID yn cynnig gobaith i’n cymuned. Trwy dderbyn eich brechlyn, byddwch yn parhau i chwarae eich rhan fach ond anhygoel o bwysig wrth amddiffyn eich hun, y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a'n GIG lleol. Diolch."

Pan fyddwch chi'n mynychu'ch apwyntiad cofiwch:

• Eich llythyr apwyntiad

• ID fel eich pasbort, eich trwydded yrru neu anfoneb yn eich enw chi

• Gorchudd wyneb (os nad oes gennych un, fe ddarperir un)

Bydd pobl 80 oed a hŷn yn parhau i gael eu gwahodd gan eu meddygfa i dderbyn y frechlyn, ac mae pob un ohonynt bellach wedi derbyn cyflenwad o frechlynnau. Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi comisiynu practisau meddygon teulu i frechu cleifion a thrigolion sy'n gaeth i'w cartrefi ac yn ein cartrefi gofal.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio i gynnig brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 erbyn canol mis Chwefror. Gwahoddir pobl dros 70 oed a phawb sy'n hynod fregus yn glinigol fel rhan o grŵp blaenoriaeth 4 nesaf i dderbyn brechlyn. Bydd y bwrdd iechyd yn darparu gwybodaeth bellach cyn gynted â phosibl.

Peidiwch â mynychu unrhyw leoliad brechu heb apwyntiad a pheidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu, fferyllfa neu’r Bwrdd Iechyd i ofyn pryd y cewch eich gwahodd. Gwahoddir pobl i dderbyn y brechlyn yn nhrefn eu blaenoriaeth a diolchwn i chi am eich amynedd.

I ddysgu mwy am y brechlyn COVID-19 ewch i https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/

Gwybodaeth bellach a sut i gadw'ch hun ac eraill yn ddiogel ar ôl i chi gael brechiad COVID-19

Ar hyn o bryd mae dau frechlyn gwahanol ar gael yng Nghymru sydd wedi'u hawdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn seiliedig ar asesiad llawn o'u diogelwch a'u heffeithiolrwydd. Byddwch yn cael un o'r brechlynnau hyn yn dibynnu ar ba un sydd ar gael.

Mae angen dau ddos ​​ar wahân ar gyfer y ddau frechlyn i ddarparu'r amddiffyniad tymor hwy gorau. Byddwch yn derbyn llythyr arall pan ddaw'n amser archebu eich apwyntiad ail ddos.

Nid yw'n hysbys eto a fydd y brechlyn yn eich atal rhag dal a throsglwyddo'r feirws. Bydd hefyd yn cymryd ychydig wythnosau i'ch corff adeiladu amddiffyniad rhag y brechlyn felly dylech barhau i gymryd y rhagofalon a argymhellir fel pellhau cymdeithasol, hylendid dwylo a gorchudd wyneb er mwyn osgoi haint.

Er y gall rhai pobl ddal i gael COVID-19 ar ôl cael brechlyn, dylai hyn fod yn llai difrifol. Bydd dau ddos ​​yn lleihau eich risg o fynd yn ddifrifol wael.

Symptomau pwysicaf COVID-19 yw dyfodiad diweddar unrhyw un o'r canlynol:

  • Peswch parhaus newydd
  • tymheredd uchel
  • colli, neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl

Mae gan rai pobl hefyd ddolur gwddf, cur pen, tagfeydd trwynol, dolur rhydd, cyfog a chwydu.

Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau uchod, arhoswch gartref a threfnwch i gael prawf trwy ffonio 119 neu trwy glicio yma https://gov.wales/coronavirus

Gallwch ddarllen mwy am frechlyn COVID-19 yma: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/