Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp gwerthuso ar gyfer safle ysbyty newydd i gyfarfod

25 Mai 2022

Yr wythnos hon bydd aelodau’r cyhoedd yn ymuno â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, clinigwyr, a phartneriaid yn y sector cyhoeddus i adolygu safleoedd posibl ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd rhywle rhwng a chan gynnwys parth Sanclêr i Arberth.

Dyma’r gweithdy cyntaf ar gyfer y grŵp gwerthuso technegol, sy’n cynnwys cynrychiolaeth fwyafrifol o aelodau’r cyhoedd, yn ogystal â staff arbenigol y GIG a staff partneriaeth. Fe'i cynhelir ddydd Mercher 25 Mai, gyda'r ail weithdy wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 28 Mehefin.

Bydd y gweithdy cyntaf hwn yn cytuno ar y broses ar gyfer y gwerthusiad a phwysigrwydd pob maen prawf y mae angen ei ystyried. Bydd yr ail weithdy yn sgorio’r safleoedd posibl – dau ohonynt yn ardal Sanclêr, dau yn ardal Hendy-gwyn ar Daf, ac un yn ardal Arberth.

Mae’r broses yn cael ei rheoli gyda chymorth a chyngor gan The Consultation Institute (agor yn ddolen newydd), corff annibynnol dielw, sy’n darparu canllawiau ar arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cynrychiolaeth y cyhoedd ar y grŵp gwerthuso hwn yn hollbwysig.

“Dyma pam rydym wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf yn gweithio’n galed i adnabod a chysylltu ag unigolion, grwpiau, a sefydliadau o bob rhan o’r tair sir yn gofyn am fynegiant o ddiddordeb i ymuno â’r grŵp. Mae hyn wedi cynnwys ysgrifennu at fwy na 200 o bobl a gymerodd ran mewn ymarfer ymgysylltu’r (agor yn ddolen newydd) llynedd, a oedd wedi gofyn am gael gwybod am weithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol.

“Rydym wedi ymdrechu i wneud y grŵp gwerthuso technegol hwn mor adlewyrchol â phosibl o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac edrychaf ymlaen at glywed eu barn.”

Yn dilyn ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd, staff a sefydliadau rhwng mis Mawrth a mis Mai 2021, bydd y meysydd canlynol yn cael eu hystyried, gan gynnwys sut i ‘bwysoli’ meini prawf penodol:

  • Amodau Safle
  • Seilwaith, mynediad a theithio llesol
  • Amgylcheddol ac ecoleg
  • Effeithlonrwydd dyluniad
  • Cynaladwyedd
  • Caffaeliad a chynllunio
  • Trafnidiaeth a hygyrchedd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymgysylltu’n sylweddol â’n cymunedau a’n partneriaid ers 2017/18. Dim ond un rhan o'r broses barhaus i adolygu ac asesu safleoedd posibl yw'r grŵp gwerthuso hwn. Mae grwpiau gwerthuso eraill yn cynnwys clinigol, gweithlu ac economaidd/ariannol.

Bydd y broses hon yn y pen draw yn arwain at wneud argymhellion gan bob grŵp gwerthuso mewn perthynas â'r safleoedd posibl. Bydd y penderfyniad terfynol ynghylch y safle a ddewisir yn cael ei wneud gan y bwrdd iechyd, mewn cytundeb â Llywodraeth Cymru, pe byddent yn cefnogi ariannu’r ysbyty.

Yn ddiweddar, cyflwynodd y bwrdd iechyd Achos Busnes Rhaglen (agor yn ddolen newydd) i gyflawni uchelgeisiau strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach a sicrhau buddsoddiad ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen yng ngorllewin Cymru. Mae’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn un elfen o gynllun uchelgeisiol i wella canlyniadau iechyd a llesiant pobl ardal Hywel Dda. Y nod yw symud o wasanaeth sy'n canolbwyntio ar salwch, adeiladau ysbytai ac ymyrraeth, i wasanaeth sy'n gweithio ar draws ffiniau i hybu lles ac atal dirywiad mewn iechyd, gan ddarparu cymorth yn gynt, a lle bynnag y bo modd yn nes at adref.

Mae strategaeth y bwrdd iechyd yn amlinellu’r weledigaeth hirdymor ar gyfer gwasanaethau’r dyfodol ar draws Hywel Dda. Er bod y cynllun uchelgeisiol hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach, mae'r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi rhestr o Gwestiynau Cyffredin (agor yn ddolen newydd) i sicrhau bod y cyhoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.