Neidio i'r prif gynnwy

Gorchuddion wyneb mewn lleoliadau gofal iechyd

30 Mai 2022

O heddiw ymlaen, 30 Mai 2022, nid yw bellach yn ofyniad cyfreithiol i ymwelwyr wisgo mygydau neu orchuddion wyneb wrth fynd i mewn i adeiladau gofal iechyd yng Nghymru.

O fewn Hywel Dda, byddwn yn parhau i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd yn gyffredinol i wisgo mygydau/gorchuddion wyneb wrth ddod i mewn i’n cyfleusterau yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Ceredigion, gan sicrhau eu bod ar gael mewn mannau cyhoeddus, wardiau ac adrannau.

Bydd yn ofynnol o hyd i staff, cleifion ac ymwelwyr mewn ardaloedd sy’n delio ag achosion hysbys neu a amheuir o COVID-19 a heintiau anadlol eraill wisgo mygydau/gorchuddion wyneb yn unol â chanllawiau atal a rheoli heintiau.

Lle mae grwpiau penodol o gleifion yn parhau i fod mewn mwy o berygl o gael COVID-19, bydd asesiad unigol yn pennu a oes angen gwisgo mygydau fel y gallwn barhau i amddiffyn ein defnyddwyr gwasanaeth mwyaf agored i niwed yn glinigol.

Cofiwch lanhau'ch dwylo wrth fynd i mewn i'r adeilad a defnyddio sebon a dŵr neu hylif diheintio dwylo mor aml â phosibl. Peidiwch ag ymweld â'n hysbytai os oes gennych chi symptomau tebyg i ffliw, symptomau COVID-19, dolur rhydd a chwydu neu wedi cael yn ystod y 48 awr ddiwethaf, wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â'r symptomau uchod yn ystod y 48 awr ddiwethaf, os oes gennych chi gyflwr neu ar feddyginiaeth sy'n eich rhoi mewn perygl o haint.