Mae’n ddrwg gennym orfod eich hysbysu ein bod wedi gorfod gohirio Gwasanaeth ‘Babanod a Garwyd ac a Gollwyd’ eleni a oedd i fod i gael ei gynnal ddydd Sadwrn 11eg o Ebrill, yn y Capel / Ystafell Tawel, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.
Mae'r penderfyniad i aildrefnu mewn ymateb i'r firws Covid-19 ac fel cydweithwyr o'r uned Caplaniaeth a Bydwreigiaeth a Cyn-enedigol a Gynaecoleg rydym yn cydnabod ei fod yn beth trist i'w wneud. Rydym yn ymwybodol bod y gwasanaeth blynyddol hwn yn dod â phobl ynghyd: rhieni, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, sydd wedi profi colled mor sylweddol yn eu bywyd.
Gan wybod bod y coffâd hwn a'i ddyddiad penodol y dydd Sadwrn cyn y Pasg wedi bod yn mynd rhagddo ers dros 20 mlynedd, a bod rhai ohonoch, gan gynnwys staff, wedi mynychu ers y dechrau. Gohirwyd y gwasanaeth er mwyn cymryd i ystyriaeth ac i gydymffurfio â chyfarwyddyd y Llywodraeth. Mae diogelwch staff ar cyhoedd yn bwysig iawn i ni.
Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i ddod â ni at ein gilydd i gofio, i gynnig heddwch ac i gofio gyda chariad ac i edrych ymlaen gyda gobaith. Er ein bod yn sylweddoli y gall y gohirio hwn fod yn siomedig, rydym yn ystyried dyddiad arall gan fy mod yn gwybod eich bod am nodi'ch colled yn flynyddol. Yn ddarostyngedig i gyngor Llywodraeth Cymru a'r GIG byddwn yn ystyried dyddiad diweddarach yn 2020 a byddwn yn defnyddio'r cyfryngau i'ch cynghori. Y dyddiad ar gyfer gwasanaeth 2021 yw dydd Sadwrn 3ydd Ebrill.
I'r rhai ohonoch a fynychodd y gwasanaeth yn 2019 efallai y byddwch yn cofio i'r gwasanaeth gael ei recordio ac mae ‘Hidden Loss’ a ddarlledwyd eisoes ar dri achlysur yn cael ei ailadrodd ar BBC Radio Wales (MW) ddydd Iau 9 Ebrill 2020 am 6.30pm. Mae'r rhaglen yn archwilio'r testun anodd o golli babanod a chlywn am yr amrywiaeth o wahanol golledion a'r siwrnai epig hirdymor, mae'n dristwch ond hefyd yn dangos cryfder y rhai sydd wedi cael eu heffeithio, a'r gobaith sydd wedi eu cynnal.
Felly, ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, hoffwn ymddiheuro, yn enwedig i'r rhai ohonoch sydd eisoes wedi gwneud trefniadau i fod yn bresennol. Yn anffodus, mae'r rhain yn amgylchiadau a oedd y tu hwnt i'n rheolaeth a byddaf yn bersonol yn cynnau cannwyll Gobaith ar 11 Ebrill ac yn gosod nodyn arbennig ar y Goeden Goffa yn canmol babanod a alwyd i orffwys yn rhy fuan a'u teuluoedd.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch ag Euryl, Uwch Gaplan ar euryl.howells2@wales.nhs.uk