2 Ebrill 2026
Mae uned SDEC (Gofal Brys yr Un Diwrnod) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi ailagor i gleifion a staff yr wythnos hon.
Ddydd Llun (30 Mawrth) ymwelodd Prif Weithredwr Hywel Dda, Dr Phil Kloer, â’r adeilad i gael taith o amgylch y cyfleusterau sydd wedi’u hadnewyddu ac i gwrdd â staff a chleifion.
Roedd y gwaith adnewyddu mawr yn bosibl diolch i £2m o gyllid Llywodraeth Cymru sydd wedi’i wario ar ddarparu mwy o ystafelloedd ymgynghori, derbynfa well, ac amgylchedd mwy dymunol i gleifion a staff.
Disgwylir y bydd yr SDEC newydd, gwell yn lleihau'r pwysau ar yr Adran Brys yng Nglangwili ac mae'n rhan o ymdrechion parhaus i wella profiad cleifion ar draws safleoedd ysbytai acíwt a'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip.
Dywedodd Dr Kloer: "Diolch i bawb sydd wedi gweithio ar y prosiect hwn. Un o'n heriau mwyaf fel bwrdd iechyd yw'r system gofal heb ei drefnu a sut mae gwasanaethau yn y gymuned a’r ysbytai yn cysylltu, ac mae SDEC yn chwarae rhan allweddol yn hynny."
“Rwy’n falch iawn ein bod yn agor yr adeilad SDEC ar ei newydd wedd. Mae’r holl waith sydd wedi’i wneud wedi gwneud argraff fawr arnaf, ond mewn gwirionedd, y bobl a’r tîm sy’n ei wneud yn bwysig.”
Talodd Dr Kloer deyrnged hefyd i Dr Geroge Eltom a oedd yn ganolog i sefydlu'r SDEC yng Nglangwili ond a fu farw ryw ddwy flynedd yn ôl yn anffodus.
Mae’n cael ei gofio yn SDEC gyda thema o waith celf dail masarn yn rhedeg trwy waliau a ffenestri’r uned i adlewyrchu ei freuddwyd o symud i Ganada gyda’i deulu. Mae un o’r ystafelloedd ymgynghori wedi’i haddurno â glöyn byw glas i nodi cariad Dr Eltom at dîm pêl-droed Chelsea.
“Mae’r ffaith bod cof George wedi’i wreiddio yn y gwaith yn hynod bwysig i bawb sy’n gweithio yma,” meddai Dr Kloer. “Rwy’n gwybod y bydd hynny’n golygu llawer i bob un ohonom oedd yn ei adnabod mor dda oherwydd bu’n gweithio yma am amser hir – ef oedd calon ac enaid y peth.”
Un o'r cleifion cyntaf i gael ei drin yn yr SDEC ar ei newydd wedd oedd Anita Harmes o Beniel, Caerfyrddin. Dywedodd: "Dyma fy nhro cyntaf i'r adeilad SDEC ar ei newydd wedd ac mae'n wych. Gall ysbyty fod yn lle brawychus ond nid yw hwn yn frawychus o gwbl - sut na allech chi fod yn hapus yma?"
Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect Keith Jones, Cyfarwyddwr Cynllunio Gweithredol a Pherfformiad Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y cyllid o £2.096 miliwn sydd wedi ein galluogi i gynyddu capasiti’r SDEC yng Nglangwili.
“Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith adnewyddu yn SDEC nawr yn helpu i leihau’r pwysau ar gapasiti’r Adran Brys ac yn galluogi ein staff i ddarparu profiad llawer llyfnach a chyflymach i gleifion yn ein gofal.”
Mae gwasanaethau a symudwyd i'r Lolfa (Ward Padarn gynt) bellach wedi symud yn ôl i adeilad SDEC. Mae'r rhain yn cynnwys y Lolfa Rhyddhau, yr Uned Ddydd Feddygol (yn Ysbyty Dydd y Priordy) a'r Gwasanaeth Gofal Sylfaenol y Tu Allan i Oriau.
Bydd y llwybrau mynediad ar gyfer gwasanaethau a arhosodd yn Ysbyty Dydd y Priordy yn ystod y gwaith adnewyddu - podiatreg, niwro-adsefydlu, a therapi galwedigaethol - nawr yn dychwelyd i normal.
Gall cleifion ac ymwelwyr ddilyn yr arwyddion parhaol, neu mae croeso iddynt ofyn i aelod o staff os oes angen cymorth arnynt i ddod o hyd i glinig.
Ychwanegodd Keith Jones: “Bydd cleifion yn cael gwybod am newidiadau a gwasanaethau’n dychwelyd i SDEC yn eu llythyrau apwyntiad. Byddem yn dal i ofyn i gleifion sy’n mynychu unrhyw un o’r clinigau yr effeithir arnynt i wirio eu llythyrau apwyntiad ddwywaith am wybodaeth am leoliad eu triniaeth. Os ydynt yn ansicr, gall cleifion hefyd ffonio’r adran ar y rhif yn eu llythyr apwyntiad.”
DIWEDD