17 Tachwedd 2022
Mae gwasanaeth 111 CYMRU yn annog y cyhoedd i fanteisio’n llawn ar ei gyngor a gwybodaeth iechyd rhad ac am ddim yn y cyfnod cyn y gaeaf.
Dylai gwefan GIG 111 Cymru fod yn fan cyswllt cyntaf i’r cyhoedd os ydynt yn sâl neu wedi’u hanafu ac yn ansicr beth i’w wneud.
Bydd mwy na 75 o wirwyr symptomau yn awgrymu beth sydd o'i le a'r camau nesaf i'w cymryd, o boen yn yr abdomen i bryder, anawsterau anadlu i losgiadau, dolur rhydd i bendro, llewygu a thwymyn.
Os yw eich pryder iechyd yn fater brys, bydd y rhai sydd wedi'u hyfforddi'n drylwyr i drin galwadau ar y rhif rhad ac am ddim 111 hefyd yn rhoi cyngor i chi dros y ffôn, gan drefnu galwad yn ôl gan glinigwr os oes angen.
Bydd defnyddio GIG 111 Cymru yn gyntaf yn lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth 999 a’r Adran Achosion Brys yn ystod gaeaf heriol arall i’r GIG yng Nghymru.
Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae llawer o wahanol wasanaethau’r GIG ac weithiau gall fod yn anodd gwybod ble orau i droi am gyngor a chymorth gofal iechyd pan fyddwch yn sâl.
“Rydyn ni’n lansio ymgyrch genedlaethol gyntaf GIG 111 Cymru y gaeaf hwn fel bod pobl yn gwybod bod yna wasanaeth sy’n gallu darparu cymorth a gwybodaeth bwrpasol pryd bynnag a lle bynnag mae pobl ei angen.”
Dywedodd Peter Brown, Pennaeth Gwasanaeth GIG 111 Cymru, a ddarperir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru: “Gyda thechnoleg ar flaenau ein bysedd, mae pobl mewn mwy o berygl o ddisgyn trwy rwydi’r rhyngrwyd wrth chwilio am symptomau meddygol, sy’n yn eu gadael yn agored i wybodaeth ffug a chamarweiniol.
“Nid yn unig mae GIG 111 Cymru ar-lein yn ffordd gyflym a hawdd o gael cyngor iechyd, ond mae’n gyngor iechyd y gallwch ymddiried ynddo, wedi’i ysgrifennu a’i gymeradwyo gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
“Mae’r adran Gwasanaethau Lleol ar y wefan hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i’ch deintydd, fferyllfa, uned mân anafiadau a chlinig iechyd rhywiol agosaf.”
Ychwanegodd Richard Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen Genedlaethol Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng: “Mae’r gaeaf yn gyfnod heriol i’r GIG, a gwyddom y gall hefyd fod yn anodd i bobl agored i niwed, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw.
“Gyda thymor arbennig o wael wedi’i ragweld ar gyfer firysau anadlol, gan gynnwys lefelau uwch o ffliw, achosion Covid-19 wedi’u cadarnhau a derbyniadau i’r ysbyty, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn defnyddio GIG 111 Cymru i dderbyn cyngor gofal iechyd dibynadwy mewn modd amserol a helpu i leddfu’r pwysau ar ein GIG prysur.”
Mae’r wythnos yma yn nodi lansiad ymgyrch Cyngor y Gallwch Ymddiried Ynddo GIG 111 Cymru.
Ewch i 111.GIG.Cymru i gael rhagor o wybodaeth.