11 Gorffennaf 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi creu adnoddau, gan gynnwys fideos o’r enw “Fy Iechyd, Fy Newis”, i roi gwybodaeth hawdd i’w deall i bobl am gael mynediad at Ofal Sylfaenol yn eu cymunedau.
Mae gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn cynnwys practisau meddygon teulu, Fferyllfeydd Cymunedol, gwasanaethau deintyddol y GIG a Phractisau Optometrig (cyfeirir atynt yn aml fel Optegwyr). Mae’r rhain i gyd yn rhan hanfodol o’r ffordd y darperir gwasanaethau i’n poblogaeth. Gall gwybod sut a phryd i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn sicrhau bod pobl yn gwneud y dewis cywir ynghylch pa wasanaeth y gall fod ei angen arnynt a chael cyngor neu driniaeth briodol yn gyflymach.
“Mae’n wirioneddol bwysig i gleifion ddeall pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol a sut a phryd i gael mynediad atynt, ac wrth gwrs i feddwl am yr hyn y gall cleifion ei wneud eu hunain i gynnal eu hiechyd a’u lles eu hunain”, meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. “Rydym wedi creu’r adnoddau ‘Fy Iechyd, Fy Newis’ gyda’r nod o rymuso pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd. Bydd gwybod pryd a ble i geisio cymorth yn galluogi pobl i gael y gofal cywir ar yr amser cywir. Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn yn helpu unigolion a’n cymunedau lleol i wneud y defnydd gorau o’u gwasanaethau lleol fel y gallant fod yn fwy effeithlon a hygyrch i bawb”.
Mae’r adnoddau “Fy Iechyd, Fy Newis” a fideos dwyieithog byr ar gael i’w gwylio ar-lein yn https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-gofal-sylfaenol (agor mewn tab newydd). Bydd posteri gyda chodau QR sy'n cysylltu â'r adnoddau hyn ar gael mewn Practisau Meddygon Teulu, Fferyllfeydd Cymunedol, Practisau Deintyddol GIG, Optometryddion, Ysbytai a Chanolfannau Cymunedol. Mae gwybodaeth hefyd yn cael ei hanfon i ysgolion a bydd yn cael ei defnyddio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd ar Facebook, Instagram ac X.
Gobeithiwn y bydd pobl yn gwylio'r fideos ac yn eu rhannu gyda’u ffrindiau a theulu.