Neidio i'r prif gynnwy

Fferylliaeth: Cyflwyno Cymru Iachach

Mae gweithwyr fferyllol ar draws sectorau gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol yn cael eu hannog i helpu i ailwampio gwasanaethau fferyllol ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Ceredigion, a darparu gweledigaeth feiddgar a fydd yn dylunio gwasanaethau o amgylch anghenion cleifion.

Cynhyrchodd Pwyllgor Fferyllol Cymru mewn partneriaeth â phartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys sylwadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, adroddiad o'r enw Fferylliaeth: Cyflwyno Cymru Iachach, sy'n nodi nifer o nodau allweddol i'w cyflawni erbyn 2030, gan gynnwys:

  • Bydd gofal yn cael ei ddarparu mewn cymunedau lleol gyda thimau fferyllol wedi'u hintegreiddio â gwasanaethau eraill i wella iechyd a lles y boblogaeth.
  • Gyda'i gilydd, bydd timau fferylliaeth yn gwella gwybodaeth cleifion a'u defnydd o'u meddyginiaethau, trwy gyd-gynhyrchu.
  • Bydd fferyllwyr yn canolbwyntio ar optimeiddio canlyniadau therapiwtig gan ddefnyddio offer sy'n cynnwys rhagnodi.
  • Bydd technegwyr fferyllol yn gwella rheolaeth a defnydd meddyginiaethau.
  • Bydd gwasanaethau fferyllol yn cefnogi ac yn gyrru arloesedd a mynediad teg i feddyginiaethau newydd a thechnolegau cysylltiedig, gan ddarparu gofal di-dor i ddinasyddion Cymru.

Mae Kathryn Davies, Technegydd Rheoli Meddyginiaethau yn Ysbyty Tywysog Philip, yn aelod gweithredol o'r Bwrdd Cyflenwi Fferylliaeth: Cyflwyno Cymru Iachach (PDaHW). Mae hi'n galw ar weithwyr fferyllol proffesiynol i gefnogi ymdrechion ac ymgysylltu â'r bwrdd ar sut y gallant gyflawni gweledigaeth 2030.

Meddai: “Rydyn ni wedi cael ymatebion cadarnhaol gan lawer o gydweithwyr ar draws pob sector, ond rydyn ni'n cydnabod bod gwaith i'w wneud o hyd er mwyn cyrraedd gweithwyr fferyllol proffesiynol ar bob lefel a hynafedd ar draws y tair sir.

“Mae gennym gyfle go iawn i wneud newid i fywydau cleifion felly byddwn yn annog cydweithwyr i ddarllen yr adroddiad ac ymgysylltu â mi fy hun a’r bwrdd cylfenwi.”

Gellir darllen yr adroddiad, Fferylliaeth: Cyflwyno Cymru Iachach, yma.

Bydd y bwrdd yn cyhoeddi diweddariad ar ôl pob cyfarfod. Gellir darllen diweddariad mis Medi yma.