Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfeydd cymunedol yn agor ar Ddydd Sul

Mae tair fferyllfa yn Sir Gaerfyrddin wedi agor eu drysau i’r cyhoedd ar ddydd Sul fel rhan o arbrawf yn y rhanbarth. 

Bydd Gravells yn Llanelli a Nigel Williams yn Llandeilio a Cross Hands ar agor i aelodau'r cyhoedd sydd angen gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael triniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin a mân anafiadau.

Pwrpas yr arbrawf hwn yw cefnogi'r gwasanaeth meddyg teulu tu allan i oriau trwy annog cleifion i gael mynediad i'r fferyllfa fel y pwynt cyswllt cyntaf.

Mae'r ddarpariaeth Brysbennu a Thrin sydd wedi'i hen sefydlu eisoes ar gael yn y fferyllfeydd trwy'r wythnos ac ar ddydd Sadwrn.

Y mathau o anafiadau lefel isel y gellir eu trin o dan wasanaeth Brysbennu a Thrin yw mân grafiadau, toriadau arwynebol a chlwyfau, cwynion llygaid fel tywod yn y llygad, tynnu eitemau o'r croen fel splinter neu gragen a mân losgiadau gan gynnwys llosg haul. Os yw'r anaf yn rhy ddifrifol i gael ei drin yn y fferyllfa, rhoddir cyngor i gleifion ynghylch ble i fynd.

Yn dibynnu ar ba fferyllydd sy'n gweithio, maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf; cynllun newydd yw hwn sy'n caniatáu i gleifion alw i mewn i'w fferyllfa leol a chael eu profi gan fferyllydd hyfforddedig gan ddefnyddio prawf cyflym a di-boen.

Yn dilyn ymgynghoriad ac asesiad gan y fferyllydd, gellir darparu meddyginiaeth ar gyfer y cleifion hynny lle mae angen gwrthfiotig.

Mewn llawer o achosion, mae dolur gwddf yn ganlyniad i haint firaol yn hytrach na bacteriol sy'n golygu na fydd gwrthfiotigau'n gweithio, a hunanofal a gorffwys yw'r ffordd orau o weithredu.

Bydd y fferyllfeydd hefyd yn gallu helpu i ddarparu dulliau atal cenhedlu brys a chyflenwadau brys o feddyginiaeth ynghyd â chynnig cyngor a thriniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin.

Y fferyllfeydd sy'n cymryd rhan yw:

• Fferyllfa Gravells, ger Thomas Street, Llanelli - ar agor 10am - 1pm

• Fferyllfa Nigel Williams, 109 Rhosmaen Street, Llandeilo - ar agor 12pm -2pm

• Fferyllfa Nigel Williams, Isfryn, Carmarthen Road, Cross Hands - ar agor 3pm - 5pm

 

Dywedodd y fferyllydd James Thorne o Fferyllfa Gravells: “Rydym yn falch o allu agor ar fore Sul i gynnig ystod o wasanaethau i gleifion a fyddai fel arall efallai wedi teithio i ysbyty i gael triniaeth.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'r Bwrdd Iechyd yn falch iawn ein bod yn parhau i ehangu'r ystod o Wasanaethau y gallwn eu cynnig i gleifion yn lleol. 

“Mae ein Fferyllfeydd Cymunedol yn darparu nifer cynyddol o Wasanaethau gwell sy'n galluogi cleifion a'r cyhoedd i ofyn am gymorth heb orfod mynychu ysbyty neu feddyg teulu.

“Credwn y bydd darparu’r Gwasanaeth hwn ar ddydd Sul ar sail prawf, yn cynyddu’r cyngor a’r gefnogaeth leol sydd ar gael i gleifion dros y penwythnos.”