Neidio i'r prif gynnwy

Fferm solar ar gyfer safle'r bwrdd iechyd yng Nghaerfyrddin

03 Mawrth 2022

Bydd fferm solar gyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cael ei gosod ar ei safle yng Nghaerfyrddin.

Mae gwaith wedi dechrau ar greu fferm solar ym Mharc Dewi Sant, oddi ar Heol Ffynnon Job, a fydd yn golygu gosod tua 1,080 o baneli ar ardal o ychydig dros erw dros y misoedd nesaf. Mae’r prosiect yn rhan o fenter datgarboneiddio’r bwrdd iechyd.

Bydd y cynllun fferm solar 0.5 MW yn darparu trydan a gynhyrchir ar y safle yn uniongyrchol i safle Hafan Derwen. Amcangyfrifir y bydd hyn yn arwain at arbedion carbon blynyddol o 120.43tCo2e, ynghyd ag arbedion ariannol o dros £73,000.

Mae parc bio-amrywiaeth hefyd wedi'i gynllunio ar y safle, a fydd yn cynnwys plannu, ardaloedd eistedd, a byrddau gwybodaeth yn egluro manteision pob un o'r planhigion i'r amgylchedd lleol i ymwelwyr â'r Man Gwyrdd. Mae'r posibilrwydd o gael pwyntiau gwefru trydan ar y safle hefyd yn cael ei archwilio.

Dywedodd Paul Williams, Pennaeth Perfformiad Eiddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Y prosiect fferm solar yn Hafan Derwen yw’r diweddaraf o’n llu o fentrau cyffrous sy’n gweithio tuag at ein nod o leihau ein hôl troed carbon. Mae'r prosiect nid yn unig yn galluogi ffynhonnell ynni adnewyddadwy ar y safle ond hefyd yn creu mannau gwyrddach, ecogyfeillgar i ymwelwyr gyda'r parc bio-amrywiaeth arfaethedig.

“Dyma gam cadarnhaol arall eto i’r cyfeiriad o fanteisio ar ac archwilio datrysiadau ecogyfeillgar ac ynni-effeithlon ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd.”

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd. Mae ganddi darged hirdymor i leihau’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, ac uchelgais ar gyfer y Sector Gyhoeddus i arwain y ffordd a bod yn sero net erbyn 2030(agor mewn dolen newydd) .

Mae’r prosiect fferm solar, sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd yr haf eleni, yn un o’r camau niferus y mae’r bwrdd iechyd yn eu cymryd tuag at fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd (agor mewn dolen newydd). Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae paneli ffotofoltäig wedi’u gosod ar y to wedi’u gosod ar saith safle ar draws Hywel Dda, gan gynnwys yn Ysbyty Dyffryn Aman, Bro Cerwyn, preswylfeydd Ysbyty Bronglais, Canolfan Iechyd Aberdaugleddau, Canolfan Iechyd Doc Penfro, a Chanolfannau Gofal Integredig Llanymddyfri ac Aberteifi. Amcangyfrifir y bydd y cynlluniau hyn yn arbed tua 419,165 Kwh o drydan a £40,000 y flwyddyn. Disgwylir i arbedion carbon blynyddol o'r prosiectau hyn fod tua 106 tCO2e.