9 Awst 2022
Cafodd ffenestr liw newydd ei chysegru yn ystod gwasanaeth arbennig yng Nghapel Sant Luc yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
Ariannwyd y ffenestr gan Sbardun, Dysgu yn Sir Benfro, gyda chymorth Cymunedau yn Gyntaf.
Crëwyd y darn celf lliwgar gan rieni Ysgol y Santes Fair yn Noc Penfro ar gwrs, dan gyfarwyddyd tiwtor gwydr lliw hynod fedrus Sbardun, Pandora Hughes.
Crëwyd y ffenestr yn wreiddiol yn 2015 ac fe’i cynlluniwyd i ffitio ffenestri neuadd Ysgol y Santes Fair yn Noc Penfro ond collodd ei chartref ar ôl i’r ysgol gau yn 2018. Roedd Tîm y Gaplaniaeth yn ysbyty Llwynhelyg yn falch o gynnig cartref newydd i’r ffenestr.
Dywedodd Laura Philips, Cydlynydd Sbardun: “Y gobaith yw y bydd eraill yn cael cymaint o bleser o’i ddyluniad a’i liwiau ag y gwnaeth pawb wnaeth ei chreu.
“Mae’r ffenestr yn ceisio dal popeth sydd gan fywyd i’w gynnig a phwysigrwydd ein diwylliant a’n hamgylchedd. Mae’n dathlu’r môr a’r arfordir, hanes y Bomwyr Sunderland o Ddoc Penfro a phensaernïaeth feiddgar a chryf y dref. Mae'r enfys yn cynrychioli gobaith ac addewid, cariad a bywyd. Mae colomen heddwch yn symbol o dawelwch a gweddi a doethineb nefol. Ac o amgylch yr ymylon fe welwch ddelweddau o iechyd, cyfoeth, natur, cerddoriaeth a llenyddiaeth. Mae’r rhosyn yn sefyll am bwysigrwydd bywyd i’r holl rieni a weithiodd ar y ffenestr hon.”
Y Parchg Geoffrey Eynon, caplaniaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Y Tad Liam Bradley a'r Parchg Martin Spain oedd yn gweinyddu'r gwasanaeth cysegru.
Roedd tîm Sbardun yn bresennol a siaradodd Laura Philips am gyd-destun hanesyddol y ffenestr lliw.
Rhoddodd Bethan Andrews, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Ysbyty Llwynhelyg, (Strôc a COTE), sy’n cynrychioli’r bwrdd iechyd air o ddiolch i gloi’r cyflwyniad gan ddilyn gyda’r ôl-ymdeithgan.