Hoffem fynegi ein diolch a'n gwerthfawrogiad twymgalon i aelodau Catrawd Frenhinol Iwerddon sydd wedi bod yn ganolog wrth gefnogi ein rhaglen brofi COVID-19 dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Mae milwyr o Gatrawd Frenhinol Iwerddon wedi cefnogi’r bwrdd iechyd i ddarparu profion antigen a gwrthgorff ar gyfer gweithwyr allweddol ac aelodau’r cyhoedd, ynghyd â darparu cefnogaeth ymarferol a chynorthwyo ein timau gofal a atal a rheoli heintiau tymor hir i brofi preswylwyr a staff cartrefi gofal. Maent hefyd wedi gweithio'n agos gyda'n Canolfan Covid, sydd wedi bod yn ganolog wrth gynhyrchu a chydlynu pob cais profi.
Dywedodd Glenna Jones, Arweinydd Clinigol a Gweithredol Unedau Profi Clinigol (CTU) y bwrdd iechyd: “Hoffwn estyn fy niolch i bob aelod o Gatrawd Frenhinol Iwerddon am eu hymroddiad a’u gwytnwch wrth gefnogi ein rhaglen brofi dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Maent wedi ymateb i bob her a thasg a ofynnwyd iddynt mewn modd hyblyg a phroffesiynol. Yn yr amseroedd digynsail hyn rydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar draws pob disgyblaeth i ddarparu gwasanaeth sy'n cefnogi iechyd ac amddiffyniad y cyhoedd, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar. Ni allem erioed fod wedi gwneud hyn heboch chi – diolch yn fawr iawn. ”
Ychwanegodd Simon Hancock, Aelod Annibynnol o’r Bwrdd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Hywel Dda: “Mae’r gefnogaeth y mae Catrawd Frenhinol Iwerddon wedi’i darparu i’n timau profi ers dechrau pandemig Covid-19 wedi bod yn gwbl amhrisiadwy ac yn enghraifft ddisglair o’r hyn a all fod wedi'i gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth gyda aelodau'r Lluoedd Arfog, y GIG a darparwyr gofal cymdeithasol. Hoffwn ddiolch i bawb."