15 Chwefror 2022
Mae datgarboneiddio a sefydlu systemau ynni effeithlon o amgylch ein cyfleusterau gofal iechyd yn flaenoriaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd. Mae ganddi darged hirdymor i leihau’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, ac uchelgais i’r Sector Cyhoeddus arwain y ffordd a bod yn sero net erbyn 2030 (agor mewn dolen newdd).
Rydym yn cefnogi’r targed hwn yn llwyr, ac rydym wedi rhoi nifer o fentrau ar waith i leihau ein hôl troed carbon.
Mae hyn yn cynnwys y contract perfformiad ynni cyntaf yng Nghymru, sydd ers ei ddechrau yn 2015 wedi arwain at ostyngiad o tua 14,525 tunnell mewn allyriadau carbon. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae adolygiadau gweithredol o ddefnydd a gollyngiadau dŵr yn ogystal â gweithredu mesurau effeithlonrwydd dŵr wedi arwain at arbed dros tua £100k, 81,000M3 a 30.4 tCO2e.
Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae paneli ffotofoltaidd ar y to wedi’u gosod ar saith safle ar draws Hywel Dda, gan gynnwys yn Ysbyty Dyffryn Aman, Bro Cerwyn, preswylfeydd Ysbyty Bronglais, Canolfan Iechyd Aberdaugleddau, Canolfan Iechyd Doc Penfro, a Canolfannau Gofal Integredig Llanymddyfri ac Aberteifi. Amcangyfrifir y bydd y cynlluniau hyn yn arbed tua 419,165 Kwh o drydan a £40,000 y flwyddyn. Disgwylir i arbedion carbon blynyddol o'r prosiectau hyn fod tua 106 tCO2e.
Dywedodd Paul Williams, pennaeth perfformiad eiddo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Dros y blynyddoedd, mae Hywel Dda wedi ymrwymo i fod yn arloeswr wrth roi atebion ynni effeithlon ar waith yn ein cyfleusterau gofal iechyd.
“Ond fyddwn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau. Dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf, byddwn yn cyhoeddi sawl menter newydd, a fydd yn parhau i leihau ein hôl troed carbon, yn ogystal ag arbed arian o ran costau ynni.
“Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynnydd ar bob un o’r mentrau cyffrous hyn, wrth i ni symud ymlaen tuag at alluogi yfory mwy gwyrdd.”