8 Medi 2022
"Rydym wedi ein tristáu o glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn cydymdeimlo’n ddiffuant â’r Teulu Brenhinol ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
“Roedd yn anrhydedd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dderbyn Croes Y Brenin Siôr yn ddiweddar gan y Frenhines, gan gydnabod 73 mlynedd o wasanaeth ymroddedig, gan gynnwys ymdrechion dewr gweithwyr gofal iechyd ledled y wlad yn brwydro yn erbyn y pandemig COVID-19.
“Rydym yn talu teyrnged i, ac yn dathlu, bywyd rhyfeddol y Frenhines a’i degawdau o wasanaeth cyhoeddus.”
Miss Maria Battle, Cadeirydd a'r Athro Philip Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.