29 Mai 2025
Heddiw, 29 Mai 2025, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cymeradwyo dychweliad gwasanaeth pediatrig llawn weithredol yn Ysbyty Bronglais.
Daw dychweliad gwasanaethau plant yn dilyn recriwtio staff nyrsio newydd sy'n golygu bod yr uned bellach wedi'i staffio'n llawn.
Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y byddai plant sydd angen mwy na 36 awr o ofal yn yr ysbyty yn cael eu trosglwyddo o Fronglais i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, fel newid dros dro am gyfnod o chwe mis.
Roedd hyn er mwyn sicrhau darpariaeth ddiogel o ofal, o ganlyniad i ostyngiad dros dro yn argaeledd nyrsys plant.
Fodd bynnag, ers i'r newidiadau ddechrau ym mis Tachwedd 2024, parhaodd Ward Angharad i ddarparu gwasanaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i blant a phobl ifanc. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd tua 400 o gleifion pediatrig eu trin yn Ysbyty Bronglais, a throsglwyddwyd tri chlaf ohonynt ymlaen i ysbytai eraill. Trosglwyddwyd dau o'r tri chlaf am resymau meddygol, sy'n golygu mai dim ond un claf ifanc a'i deulu a gafodd eu heffeithio gan y newid dros dro.
Parhaodd yr asesiad a'r driniaeth yn yr Uned Gofal Ambiwlatori Pediatrig, lle mae plant yn cael eu hasesu a'u trin, yn ogystal â thriniaeth lawfeddygol a sefydlogi.
Adolygwyd y newid gwasanaeth y mis hwn (Mai) ar ôl cyfnod o chwe mis.
Mae chwe nyrs newydd wedi ymuno â'r ward sy'n golygu y gall y gwasanaeth ddychwelyd i normal - gyda Ward Angharad yn gallu darparu llety i blant sâl am gyfnodau hirach o amser.
Dywedodd yr Uwch Brif Nyrs a Rheolwr Ward Angharad, Bethan Hughes: “Rydym wedi cael trafferth recriwtio yma ym Mronglais ers blynyddoedd lawer, ac mae hynny'n debyg oherwydd natur wledig yr ardal. Er ei fod yn lle hardd i ddod i weithio a byw, rydym ymhell o fywyd y ddinas.
“Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i ddenu nyrsys i'r gwasanaeth trwy ymgyrchoedd recriwtio llwyddiannus ac ymuno â chydweithwyr ac uwch reolwyr yn yr adran i edrych ar ffyrdd posibl eraill o recriwtio.
“Rydym wedi edrych ar ein disgrifiadau swyddi ac wedi recriwtio staff i rai o’r swyddi gwag ar ddisgrifiad swydd generig ar gyfer nyrsys cofrestredig sydd â phrofiad a gwybodaeth bediatrig helaeth.
“Mae wedi bod yn gymysgedd o feddwl y tu allan i’r bocs a mabwysiadu dull hyblyg, ac, ar yr achlysur hwn, mae wedi gweithio’n llwyddiannus i ni.”
Selma Thomas ac Anumol Mathew yw dwy o’r nyrsys sydd wedi ymuno â Ward Angharad.
Mae Selma yn wreiddiol o India ond yn fwyaf diweddar bu’n gweithio fel nyrs Uned Gofal Dwys yn Sawdi Arabia. Mae ei gŵr hefyd yn gweithio yn yr ysbyty fel nyrs yn yr uned endosgopi. Dywedodd Selma:
“Rwyf wedi bod yma am bedwar mis a hanner nawr ac rwy’n ymgartrefu’n dda iawn. Pan ddechreuais yma, roeddwn yn cael trafferth gyda rhai o’r protocolau a’r canllawiau - sut mae’r ward yn gweithio, protocolau derbyn a rhyddhau, cyfathrebu â’r rhieni a’r plant.
“Ond rydw i wedi dal i fyny, felly nawr rydw i’n hapus am hynny a byddaf yn dysgu mwy. Mae pawb wedi bod mor gefnogol a chyfeillgar.”
Mae Anumol, a ymunodd drwy’r Rhaglen Nyrsys Addysg Ryngwladol, yn dod yn wreiddiol o Kerala yn India a dyma’r tro cyntaf iddi weithio oddi cartref ond mae hi wedi ymgartrefu’n dda ac yn gobeithio dod â’i theulu ifanc i Aberystwyth.
“Cyrhaeddais i Gaerfyrddin ym mis Hydref, mynychais yr holl hyfforddiant ac ymunais â Ward Angharad ym mis Rhagfyr. Rwy’n credu ei bod yn sefyllfa wahanol iawn i mi i ddechrau oherwydd nad oeddwn wedi gweithio mewn unrhyw wledydd eraill, felly roedd yr holl bolisïau a chanllawiau’n wahanol iawn. Ond rydw i’n ffodus i gael tîm mor dda yn gweithio yma - mae pob un ohonyn nhw’n gefnogol iawn. Fe wnaethon nhw fy helpu llawer ac os oes gen i unrhyw amheuon, mae croeso i mi ofyn i unrhyw un yma ac maen nhw i gyd yn fy nghefnogi.”
Mae Sioned Rees-Evans, sy’n wreiddiol o Aberystwyth, wedi ymuno â’r tîm fel nyrs iau. Mae hi’n dod i Ward Angharad ar ôl tair blynedd yn ysbyty plant Arch Noa yng Nghaerdydd.
“Mae’r blynyddoedd diwethaf yn Arch Noa wedi rhoi llwyth o brofiad i mi ac rydw i wedi gweithio ar ward feddygol gyffredinol, felly mae gen i lawer o brofiad. Rwy’n teimlo bod hynny wedi fy helpu i ddod i’r rôl hon.
“Roeddwn i bob amser yn gwybod y byddwn i’n dod yn ôl i Aberystwyth. Roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bryd newid a dod yn agosach at adref. Rydw i wrth fy modd – mae’r tîm mor hyfryd yma”
Mae Sioned, sydd wedi bod ar y ward ers mis Rhagfyr 2024, yn siaradwr Cymraeg, a dywedodd: “Mae gallu siarad Cymraeg yn ddefnyddiol iawn – mae siarad mamiaith y plant yn gwneud gwahaniaeth mawr.”
Mae Bethan wrth ei bodd gyda’i thîm newydd, ac mae hi’n edrych ymlaen at ei ddatblygu a’i symud ymlaen.
“Mae hwn yn gyfnod newydd a chyffrous i Ward Angharad ac rydym yn edrych ymlaen at ofalu’n dosturiol am y plant a’r bobl ifanc yng Ngheredigion a’r ardaloedd ehangach gyda gwerthoedd y Bwrdd Iechyd wrth wraidd pwy ydym ni’n unigol.”
Hoffai Bethan estyn ei diolch o galon i'w holl dîm sydd wedi gweithio mor galed i gefnogi'r gwasanaeth ar Ward Angharad ar adeg o brinder staff.
Dywedodd Nick Williams-Davies, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Hywel Dda ar gyfer Gwasanaethau Pediatrig ac Newyddenedigol Acíwt: “Rydym mor falch bod y gwasanaeth yn Ward Angharad wedi dychwelyd i normal. Mae hyn diolch i lawer o gydweithio o fewn y tîm i ddod o hyd i atebion ymarferol i'n problemau staffio.
“Mae gennym dîm gwych yn Ward Angharad sy'n barod i ofalu am ein plant a'n pobl ifanc. Hoffwn hefyd ddiolch i'r staff am weithio mor galed dros y chwe mis diwethaf, fel y maent bob amser yn ei wneud, i sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion ifanc.”
DIWEDD