Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarthu taflen gwasanaethau ysbyty plant yn fuan

Gofynnir i breswylwyr yn Sir Benfro edrych allan am daflen am wasanaethau ysbyty plant, a fydd yn cael ei dosbarthu i aelwydydd o'r wythnos nesaf ymlaen (wythnos yn dechrau 25 Hydref 2021).

Bydd y daflen yn esbonio pam mae newidiadau dros dro i ail-leoli uned yn ystod y dydd i blant (PACU / Pâl) a'i staff arbenigol o Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, wedi'u hymestyn i 2022. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth ar sut i gael mynediad at y gofal cywir ar gyfer plentyn pan fydd yn sâl.

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Philip Kloer: “Rydyn ni'n gobeithio y bydd y daflen yn ganllaw cyflym a defnyddiol i rieni a gofalwyr ei gadw wrth law yn y cartref. Rydym yn gwybod y gall gwneud penderfyniadau pan fydd plentyn yn sâl neu wedi'i anafu fod yn straen a gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn helpu.

“Mae'n cynnwys cod QR a fydd yn mynd â chi i'n hadnodd gwe pwrpasol ar wasanaethau plant, lle mae fersiynau amgen o'r daflen hefyd a manylion cyswllt ar gyfer pobl sy'n dymuno rhannu eu profiad o ofal."

Symudwyd y gwasanaeth dros dro yng ngwanwyn 2020 oherwydd yr angen am le yn yr ysbyty i ymateb i'r pandemig COVID-19. Mae wedi cael ei ymestyn oherwydd parhad y pandemig a hefyd i sicrhau bod y nifer cynyddol o blant â salwch anadlol yn cael mynediad at ofal arbenigol pan fo angen.

Mae'n golygu bod Ysbyty Llwynhelyg ar hyn o bryd yn trin dim ond plant â mân anafiadau fel mân glwyfau, mân losgiadau neu sgaldiadau, brathiadau pryfed, esgyrn posib wedi torri os nad ydynt wedi cam-lunio'n wael, mân anafiadau i'r pen neu'r wyneb, neu ddarnau dieithr yn y trwyn neu'r glust; ac apwyntiadau cleifion allanol.

Mae plant â salwch neu anafiadau difrifol yn cael eu trin yn Ysbyty Glangwili lle mae Adran Achosion Brys wedi'i chydleoli â gwasanaethau ysbyty plant, gan gynnwys ward plant dros nos, uned dibyniaeth uchel plant a gofal plant yn ystod y dydd (ambiwladol).

Mae clinigwyr aml-broffesiynol, gan gynnwys uwch feddygon lleol mewn gofal plant (pediatreg), meddygaeth frys, ac anaestheteg, wedi cefnogi'r argymhelliad a'r angen am negeseuon cliriach i'r cyhoedd er mwyn lleihau'r risg o oedi wrth drin plant a pobl ifanc.

Dywedodd Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Menywod a Phlant, Dr Prem Kumar Pitchaikani: “Mae angen i ni osgoi’r oedi a allai gael ei achosi pan ddygir plentyn i Adran Achosion Brys Llwynhelyg dim ond i fod angen trosglwyddiad i Ysbyty Glangwili. Bydd parhad y newid gwasanaeth dros dro hwn yn sicrhau y bydd plant sâl iawn, gan gynnwys y nifer cynyddol o blant sy'n debygol o gael firysau anadlol y gaeaf hwn, yn cael mynediad at eu triniaeth ddiffiniol yn gyflymach. Gallant hefyd gael eu monitro a'u trin yn gyflym gan arbenigwyr os byddant yn dirywio."

Dywedodd y Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Meddygaeth Frys, ac uwch ymgynghorydd yng Nghanolfan Gofal Brys Ysbyty Llwynhelyg, Dr Nicola Drake: “Mae'n hanfodol bwysig bod plant sâl yn cael cefnogaeth pediatregwyr arbenigol ar y cyfle cyntaf. Maent hefyd angen mynediad cynnar at offer arbenigol sy'n cael ei ddarparu a'i fonitro gan bediatregwyr. "

Y bwriad yw parhau â'r sefyllfa dros dro a chychwyn adolygiad ym mis Mawrth 2022, gan adrodd yn ôl i'r Bwrdd Iechyd yn hydref 2022. Bydd y Bwrdd Iechyd a Chyngor Cymunedol Hywel Dda yn craffu ar yr adolygiad gan fesur canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc, yn ogystal â phrofiadau cleifion a barn cymunedau.

Mae mwy o wybodaeth ar sut a phryd y mae mynediad at wasanaethau gofal iechyd plant yn lleol ar gael ar ein gwefan trwy chwilio am ‘gwasanaethau plant’.

Os oes gennych brofiad o wasanaethau plant yr ydych am eu rhannu â ni, chwiliwch y wefan am ‘arolwg cleifion’ neu ‘cwynion’; e-bost: hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk; neu ffôn: 0300 0200 159.

Byddwn yn ymgysylltu â'n cymunedau ynghylch dyfodol gwasanaethau plant yn 2022, ond os ydych chi am rannu eich barn ar y pwynt hwn, e-bostiwch: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk; ysgrifennwch at: RHADBOST BWRDD IECHYD HYWEL DDA (ni fydd angen stamp arnoch chi); ffoniwch: 01554 899 056 (nid oes staff yn ateb yr alwad, ond bydd negeseuon yn cael eu cofnodi).

* Sylwch fod y newidiadau hyn yn effeithio ar wasanaethau plant yn Ysbyty Llwynhelyg yn unig ac mae gwasanaethau oedolion yn yr ysbyty yn aros yr un fath. Mae gwasanaethau pediatreg yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn aros yr un fath. Nid oes unrhyw newid i Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Ble i gael help os yw fy mhlentyn yn sâl?

Ffoniwch 999 os oes gan eich plentyn anafiadau difrifol neu salwch sy'n peryglu ei fywyd, gan gynnwys trafferthion anadlu difrifol neu anadlu afreolaidd, mynd yn las o amgylch y gwefusau, yn welw ac yn oer iawn, os yn cael ffit neu drawiad, yn llawn trallod, yn gysglyd iawn neu'n anymatebol, yn datblygu brech nad yw'n diflannu gyda phwysau, neu sydd â phoen yn y ceilliau.

Ewch i Uned Mân Anafiadau (24/7 yn Ysbyty Llwynhelyg; o ddydd Llun i ddydd Gwner yn ystod y dydd yn unig ar gyfer plant dros 12 mis yn Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Gofal Integredig Aberteifi) os oes gan eich plentyn fân glwyfau, mân losgiadau neu sgaldiadau, brathiadau pryfed, esgyrn wedi torri  o bosib os nad ydyn nhw wedi'u cam-lunio'n wael, mân anafiadau wyneb, neu ddarn estron yn y trwyn neu'r glust.

Cysylltwch â'ch meddyg teulu heddiw os oes gan eich plentyn salwch nad yw’n diflannu, a ddynodir gan dymheredd uchel, crynu, poen yn y cyhyrau, peswch, gwichian, mwy o ymdrech i anadlu, chwydu parhaus / dolur rhydd / poen bol difrifol, gwaed yn ei ysgarthion neu wrin neu ddadhydradiad. Ffoniwch GIG 111 Cymru (24/7) i gael cyngor brys os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud. Ffoniwch 111 i gael cymorth brys pan fydd eich meddygfa arferol, neu wasanaeth gofal sylfaenol arall ar gau.

* Efallai y gofynnir ichi fynd â'ch plentyn i Adran Achosion Brys Ysbyty Glangwili os oes angen mewnbwn gan feddygon plant arbenigol.

Trin gartref neu gysylltu â'ch fferyllydd os oes gan eich plentyn fân salwch neu anhwylder fel dolur gwddf, peswch, croen coslyd, neu os oes angen atal cenhedlu brys ar berson ifanc. Gallwch gael help ar-lein trwy chwilio ‘Gwiriwr Symptomau 111 GIG Cymru’. Mae rhai fferyllfeydd yn cynnig triniaeth heb apwyntiad ar gyfer anafiadau lefel isel.

Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd gallwch gyrchu gwasanaethau 999 gan ddefnyddio ap Relay UK a deialu 999, neu GIG 111 trwy ddeialu 18001 111.