Neidio i'r prif gynnwy

Dos Atgyfnerthu'r Gwanwyn y Rhaglen Brechu Covid-19 yn dechrau

13 Ebrill 2022

Mae apwyntiadau ar gyfer brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn COVID-19 wedi dechrau ar gyfer y rheini sy’n gymwys yng nghanolfannau brechu torfol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn y rhan fwyaf o feddygfeydd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae COVID-19 yn fwy difrifol mewn pobl hŷn a'r rhai sydd â system imiwnedd wan. Am y rheswm hwn, mae pobl 75 oed a throsodd, y rhai mewn cartrefi gofal a'r rhai 12 oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan (fel y'i diffinnir â imiwnedd wan (immunosuppressed) yn nhabl 3 a 4 ym mhennod 14a y Llyfr Gwyrdd (agor mewn dolen newydd)) yn cael cynnig dos atgyfnerthu’r gwanwyn.

Bydd dos atgyfnerthu'r gwanwyn yn cael ei gynnig hyd at ddiwedd mis Mehefin ac fe'ch cynghorir i'w roi tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl derbyn y dos olaf o'r brechlyn er mwyn cael yr amddiffyniad gorau.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r bwrdd iechyd a’r meddygfeydd sy’n cymryd rhan yn y broses o gysylltu â phobl sy’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 yn y gwanwyn. Mae apwyntiadau'n cael eu trefnu yn unol â chyngor diweddaraf y JCVI ac yn unol ag oedran a’r rhai sy’n fwyaf agored i niwed yn glinigol.

“Bydd pobl yn cael eu gwahodd i naill ai canolfan frechu torfol neu eu meddygfa. Os yw eich meddygfa yn cymryd rhan yn y broses o gyflwyno’r brechlyn, bydd yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro, felly gofynnwn yn garedig i bobl beidio â chysylltu â’u meddyg teulu am y brechiad COVID-19.

“Mae canolfannau brechu torfol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn parhau i ddarparu ar gyfer sesiynau galw heibio i bawb 12 oed a hŷn er mwyn caniatáu mynediad hawdd a hyblyg at y brechlyn oherwydd cynnydd yn yr achosion o COVID yn ein cymuned. Pe bai rhywun sy’n gymwys ar gyfer dos atgyfnerthu’r gwanwyn yn mynychu fel sesiwn galw heibio heb apwyntiad, ni fyddant yn cael eu gwrthod.”

Os ydych wedi cael apwyntiad gyda meddyg teulu ar gyfer eich dos atgyfnerthu’r gwanwyn, mynychwch yr apwyntiad er mwyn helpu i leihau gwastraff brechlynnau.

Ychwanegodd Bethan: “Bydd clinigau brechu ar gyfer plant 5 i 11 oed yn parhau tra bod dos atgyfnerthu’r gwanwyn yn cael ei gyflwyno. Trwy apwyntiad yn unig y mae ar gyfer y grŵp oedran hwn yn unig y gwneir hyn, felly trefnwch apwyntiad drwy ffonio 0300 303 8322 cyn teithio i ganolfan frechu.”

I gael rhagor o wybodaeth am raglen atgyfnerthu’r gwanwyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys amseroedd agor galw heibio, ewch i biphdd.gig.cymru/brechlyn-COVID19 (agor mewn dolen newydd) neu ffoniwch 0300 303 8322 neu cwblhewch y ffurflen hon https://forms.office.com/r/9kg96t6Chs (agor mewn dolen newydd)