Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Cenedlaethol Ystadau a Chyfleusterau Gofal Iechyd

15 Mehefin 2022

Mae heddiw'n nodi Diwrnod Cenedlaethol cyntaf ar gyfer Ystadau a Chyfleusterau Gofal Iechyd.

Diwrnod i gydnabod gwaith hanfodol holl staff Ystadau a Chyfleusterau a'u rôl yn narpariaeth gwasanaethau Gofal Iechyd.

Mae ein cydweithwyr anhygoel ein adrannau Ystadau a Chyfleusterau yn gweithio'n ddiflino i gadw ein holl wasanaethau i redeg yn esmwyth 24/7, 365 diwrnod y flwyddynmae pob cydweithiwr yn chwarae rhan hanfodol – ac rydym am fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at ein cydweithwyr Ystadau a Chyfleusterau anhygoel a dathlu popeth a wnânt. 

Simon Chiffi, Pennaeth Gweithrediadau Ystadau: “Diwrnod da o fewn y tîm Gweithrediadau Ystadau yw'r wybodaeth ein bod wedi chwarae ein rhan yn y darlun ehangach.

“Gan ddeall, trwy gynnig cyfarwyddiadau i bobl, trwy weini bwyd o safon, trwy ein hymrwymiad i gynnal a chadw bob awr o'r dydd mewn offer peirianneg hanfodol er mwyn caniatáu i'r ysbyty barhau i redeg, rydym yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl fel galluogwyr. Mae bod yn rhan o'r tîm hwn gydag ystod mor amrywiol o bobl, meysydd ffocws a sefyllfaoedd cymhleth sy'n newid yn barhaus yn caniatáu i ni gael mwy o bwyntiau cyffwrdd â mwy o bobl yn ddyddiol ar draws pob safle na llawer.

“Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni gwrdd â chymaint o aelodau o staff a’r cyhoedd a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl oherwydd nid yw iechyd a gofal yn ymwneud â chael eich trin yn gorfforol yn unig, mae’n ymwneud â dangos parch a chael eich ystyried. Rydym yn ymdrechu i gael gwasanaeth cwsmeriaid gwych a gweithredu newid ystadau trawsnewidiol ac mae'r tîm hynod ymroddedig ac amrywiol hwn yn bleser i fod yn rhan ohono. Ei ddiben yw gwneud yfory yn well na heddiw.”