Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad y Gwasanaethau Mamolaeth am ymweliadau partneriaid geni

Diweddariad COVID Hywel Dda

Rydym yn deall bod hyn yn adeg llawn straen a phryder os ydych yn feichiog ac yn bwriadu rhoi genedigaeth yn ystod y misoedd nesaf. Mae ein hunedau mamolaeth yn gweithio o gwmpas y cloc ar hyn o’r bryd i reoli pwysau ychwanegol a hwyluso dewisiadau merched.

Rydym yn eich annog i gael partner geni yn bresennol gyda chi yn ystod y cyfnod esgor a genedigaeth, gan gynnwys toriadau Cesaraidd cynlluniedig. Gwyddom fod cael partner geni dibynadwy yn bresennol yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelwch a llesiant menywod wrth roi genedigaeth.

Os oes gan eich partner geni symptomau coronafeirws, ni fydd yn cael mynd i mewn i'r uned mamolaeth dan arweiniad bydwraig, i ddiogelu eich iechyd a'r staff mamolaeth sy'n eich cefnogi. Byddwn yn gofyn i bob partner geni gael gwirio ei dymheredd cyn dod i unrhyw un o'n hunedau.

Fodd bynnag, mewn ymateb i ganllawiau newydd, rydym wedi newid ein trefniadau ar gyfer ein wardiau cynenedigol ac ôl-enedigol, nad ydynt bellach yn gallu cael unrhyw ymwelwyr, gan gynnwys partneriaid geni. Rydym yn eich annog i ddod â'ch ffonau clyfar neu gyfrifiaduron gyda cyfarpar gwefru fel y gallwch barhau i gynnwys eich partner gyda'ch gofal gan ddefnyddio facetime, WhatsApp, Skype. Mae gan y Bwrdd Iechyd wi-fi am ddim y gallwch chi gael mynediad iddo.

Os ydych yn bwriadu geni gartref mae egwyddorion un partner geni yn aros, gan wirio tymheredd eich partner geni ac os oes gan eich partner symptomau coronafeirws byddwn yn gofyn iddynt beidio â bod yn bresennol ac i ynysu eu hunain.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu eglurhad, cysylltwch â'ch bydwraig gymunedol.

Gellir dod o hyd i ffynonellau da o wybodaeth gyfredol ar ein grwpiau Facebook caeedig – Glangwilli Bumps and Babies; Boliau a Babanod Bronglais Bumps and Babies; Withybush Midwife Led Unit; a Pembrokeshire Antenatal Hub a gwefan Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) https://www.rcog.org.uk/